‘Pryder cynyddol’: Dau o Geredigion sydd ar goll wedi eu gweld yn Llandudno
Mae dyn ifanc a menyw 16 oed sydd wedi bod ar goll o ardal Aberteifi yng Ngheredigion ers ddydd Llun wedi eu gweld yn Llandudno, meddai’r heddlu.
Dywedodd yr heddlu fod yna “bryder cynyddol” gan deuluoedd am Isobel a Daniel wedi iddyn nhw fethu â chysylltu ers bron i wythnos.
Roedden nhw wedi eu gweld yn Llandudno am 20.20 ddydd Iau ac wedi gofyn am gyfarwyddiadau i ardal Dolgellau, meddai Heddlu Dyfed-Powys.
Y gred yw eu bod nhw wedi mynd ag offer gwersylla gyda nhw a fod ganddyn nhw gysylltiadau yng ngogledd Cymru a hefyd Glannau Merswy a Sir Gaerloyw yn Lloegr.
“Ry’n ni’n parhau i geisio dod o hyd i Isobel a Daniel,” meddai’r ditectif arolygydd Rebecca Thomas.
“Rydyn ni’n gwybod iddyn nhw brynu offer gwersylla ond maen nhw wedi gadael eu cartrefi heb roi gwybod ac mae eu teulu a’u ffrindiau yn fwyfwy pryderus gan nad ydyn nhw wedi bod mewn cysylltiad ers bron i wythnos.
“Mae’n hysbys hefyd nad oes ganddyn nhw eu ffonau symudol arnyn nhw.
“Byddwn yn gofyn i unrhyw un sydd wedi eu gweld nhw i gysylltu.
“Byddwn yn apelio ar Isobel a Daniel i gysylltu â’r heddlu neu’r teulu fel y gallwn sicrhau eu bod yn ddiogel.”
Mae Isobel yn 5 troedfedd 3 modfedd ac fel arfer mae ganddi wallt melyn, ond mae'n bosibl ei bod wedi lliwio ei gwallt i liw tywyllach.
Fe’i gwelwyd ddiwethaf yn gwisgo cot du mewn steil parker gydag ymyl ffwr, trowsus loncian llwyd, yn yn cario sach gefn ddu.
Mae Daniel yn 6 troedfedd 1 modfedd gyda gwallt brown tywyll byr, gyda’r ochrau wedi eu heillio.
Gwelwyd ef ddiwethaf yn gwisgo jîns glas tywyll, crys-t du, a chot ddu, yn cario sach gefn gwersylla fawr, sy'n ddu, coch a llwyd.
Mae’n bosib eu bod nhw wedi newid eu dillad ers hynny.