Casglwyr sbwriel Birmingham i gynnal pleidlais ar ddod â streic i ben
Fe fydd gweithwyr casglu sbwriel Birmingham yn cynnal pleidlais ddydd Llun ar “fargen rannol” gyda’r nod o ddod â streic yno i ben.
Fe gerddodd aelodau Unite yn Birmingham allan ar 11 Mawrth. Ers hynny mae sbwriel wedi pentyrru ar y strydoedd ac mae yna rybuddion am argyfwng iechyd cyhoeddus.
Mae’r undeb yn ymgyrchu yn erbyn cynlluniau i dorri tâl gweithwyr gwasanaeth sbwriel ac ailgylchu’r ddinas. Maen nhw'n dweud y bydd yn arwain at gannoedd o’i haelodau’n cael toriad o hyd at £8,000 y flwyddyn yn eu cyflog.
Mae'r cyngor yn anghytuno â'r ffigyrau, gan ddweud mai dim ond 17 o weithwyr fydd yn cael eu heffeithio, gan golli llawer llai nag y mae Unite yn ei hawlio.
Dywedodd Unite y bydd pleidlais yn cael ei chynnal erbyn diwedd ddydd Llun.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Unite, Sharon Graham: “Nid yw'r anghydfod hwn yn ymwneud â thrachwant, neu gynnydd mewn cyflog.
"Mae'r anghydfod hwn yn ymwneud â gweithwyr yn colli hyd at £8,000 o'u cyflog - sydd bron yn chwarter i rai.
“Er bod cytundeb rhannol wedi bod ar ddiogelu cyflogau ar ôl sawl wythnos bellach, mae’n dal i adael y gweithwyr hyn yn poeni am sut maen nhw’n mynd i dalu eu morgeisi a’u taliadau rhent ymhen ychydig fisoedd."
'Negodi'
Wrth ymweld â'r ddinas yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth y Dirprwy Brif Weinidog Angela Rayner annog Unite i dderbyn cynnig gwell.
Dywedodd Ms Rayner, sydd hefyd yn Ysgrifennydd Cymunedau: “Rydym yn gwybod bod y cyngor wedi bod yn ymgynghori, yn trafod ac yn negodi gydag Unite.
“Mae yna gynnig sylweddol well ar y bwrdd i’r gweithwyr, ac rydw i’n annog Unite i atal eu gweithred ac i dderbyn y cynnig hwnnw.”
Dywedodd y cyngor fod trafodaethau gydag Unite wedi bod yn “gynhyrchiol”.
Llun: Public Sector Executive