Sir Benfro: Gyrrwr wedi marw mewn gwrthdrawiad
Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth wedi i yrrwr farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Benfro.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A40 ger pentref Trefgarn am 12.40 ddydd Gwener.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng Citroen Picasso aur a Audi A1 du a oedd yn teithio i gyfeiriadau gwahanol.
Bu farw gyrrwr y Citroen yn y fan a’r lle.
Mae’r heddlu yn apelio am unrhyw dystion i’r gwrthdrawiad, unrhyw un a welodd y ceir cyn y digwyddiad, neu a allai fod â lluniau camera dashfwrdd o’r cerbydau.