Tro pedol gan Brifysgol Caerdydd ar ddyfodol yr adran nyrsio
11/04/2025
Tro pedol gan Brifysgol Caerdydd ar ddyfodol yr adran nyrsio
"What do we want? Save our Schools!"
Codi llais yn erbyn penderfyniad Prifysgol Caerdydd i ddod a'r cwrs Nyrsio i ben.
Ddechre'r flwyddyn, cyhoeddodd y Brifysgol fwriad i gael gwared ar rai adrannau i arbed arian.
Un o'r rhain oedd Nyrsio.
Bellach, mae'r penderfyniad wedi ei ohirio.
"Mae'n galonogol gweld y cyhoeddiad heddiw a cham i'r cyfeiriad cywir.
"Mae 'na dal amheuaeth am ganlyniad yr ymgynghoriad yr effaith ar staff a darlithwyr a phawb ynghlwm wrth addysg ond hefyd myfyrwyr sydd wrthi'n astudio neu sydd am gychwyn a sut brofiad addysgol gawn nhw."
Mewn e-bost at staff y bore 'ma, dywedodd yr Athro Stephen Riley Pennaeth y Coleg Biowyddorau bod hyn yn newyddion da
i'r cyhoedd a chleifion ac wrth gwrs, gweithlu nyrsio'r dyfodol.
Wedi trafodaethau, dywedodd bod cynllun amgen credadwy wedi cael ei gyflwyno fyddai'n golygu addysgu llai o israddedigion.
Er y bydd y cyrsiau Nyrsio yn parhau.
Croesawu'r newyddion wnaeth Llywodraeth Cymru.
Maen nhw'n mynnu bod cynllunio i ateb gofynion y sector nyrsio yn y dyfodol yn hollbwysig.
Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn rhybuddio bod gwaith i'w wneud os yw'r Brifysgol am ennill hyder y sector yn ol.
"From what we've seen the actions of the University could've been done long before a decision was made to close the School of Nursing.
"It's a slap in the face for the nursing profession."
Mewn datblygiad arall heddiw, cyhoeddodd y Brifysgol y bydd llai o ddiswyddiadau o blith aelodau staff.
Fis Ionawr, torri 400 swydd oedd y nod, bellach 286 o staff fydd yn gorfod gadael ar ol i nifer dderbyn diswyddiad gwirfoddol.
"Dydy o'm yn newyddion 'dan ni isio.
"Mae 'na lot o aelodau fel fi sydd wedi ffeindio allan bod ein swyddi dal dan risg.
"Ni ddim eisiau gweld unrhyw ddiswyddiadau gorfodol o gwbl.
"Ni'n teimlo bod y toriadau yn greulon ac yn ddiangen.
"'Dan ni'n teimlo bod y brifysgol yn gallu datrys y broblem ariannol mewn ffordd rhesymol a graddol na'r hyn maen nhw'n ei gynnig."
Mae'r Brifysgol yn pwysleisio bod yr ymgynghori ar y cynlluniau'n parhau.
Daw'r penderfyniadau terfynol fis nesaf.