Newyddion S4C

Nigel Farage i arwain ymgyrch Reform yn etholiadau’r Senedd 'ond ddim am sefyll'

Y Byd yn ei Le 11/04/2025
Nigel Farage

Bydd Nigel Farage yn arwain ymgyrch Reform UK yn etholiadau’r Senedd yn 2026, ond ddim yn sefyll fel ymgeisydd, yn ôl y blaid. 

Roedd Llŷr Powell, pennaeth tîm cyfathrebu Reform yng Nghymru, yn siarad ar raglen Y Byd yn ei Le ar S4C nos Iau.

Pan ofynnwyd i Mr Powell pwy fydd yn arwain ymgyrch etholiadol Reform ar gyfer Senedd Cymru, dywedodd; “Nigel Farage…fe yw arweinydd y blaid."

“Ni'n mynd i weld yr ymgeiswyr dros y blaid yn sefyll lan a gyd ohynyn nhw yn front and center yn yr etholiad yna," meddai.

Yn yr wythnosau cyn y cyfweliad, roedd sïon bod Mr. Farage yn ystyried sefyll fel ymgeisydd ei hun. Ond wrth gael ei holi am hyn fe ddywedodd Mr. Powell “Na, so fe’n sefyll.”

Bydd etholiad nesaf y Senedd ym mis Mai 2026, gyda nifer y seddi yn y Senedd yn cynyddu o 60 i 96.

Mae arolwg barn diweddar gan Survation yn rhoi Llafur ar y blaen gyda 27% o’r bleidlais, a Reform a Phlaid Cymru yn gydradd ail ar 24%. 

Image
Llyr Powell
Llŷr Powell

Dywedodd Mr Powell bod rhaid “aros i weld” pwy fyddai Prif Weinidog Cymru petai Reform mewn sefyllfa i lywodraethu. 

Pan ofynnwyd iddo a fyddai Reform yn cydweithio gydag unrhyw blaid arall yn y Senedd er mwyn llywodraethu, dywedodd:

“Ar y funud, dydyn ni ddim yn gweld llawer rydyn ni’n cytuno ag ef gydag unrhyw un o’r pleidiau mewn yna, ond falle os oes rhaid inni roi Cymru gyntaf, dyna beth fyddwn ni’n ei wneud.

“Os ydy pobl Cymru yn rhoi Reform (fel) y blaid fwyaf, yn fy marn i mae’n iawn i bobl ddod i siarad gyda ni am sut i redeg Cymru. Ond cwestiwn iddyn nhw yw hynny.”

'Ddim yn gwybod os ydy hynny’n efengyl'

Wrth ymateb i’r cyfweliad, dywedodd Yr Athro Richard Wyn Jones nad oedd yr hyn ddywedodd Mr. Powell yn golygu na fydd Nigel Farage yn sefyll fel ymgeisydd. 

“Roedd Llŷr hefyd yn dweud nad oedd Oliver Lewis yn arwain Reform yng Nghymru ychydig fisoedd yn ôl, a dyna oedd bob un ohonom ni’n meddwl oedd yn digwydd," meddai.

"Felly dwi ddim yn gwybod os ydy hynny yn efengyl.”

Roedd yn ymateb i honiad arall wnaed gan Llŷr Powell yn ystod y cyfweliad nad Oliver Lewis oedd Llefarydd Reform yng Nghymru fis Ionawr pan ddywedodd bod gan Gymru “lefelau cyfyngedig o fewnfudo”, a bod modd dadlau bod hyn wedi bod yn “bositif iawn i’r economi”. 

Cadarnhaodd Oliver Lewis wrth Y Byd yn ei Le nad ef yw llefarydd Reform yng Nghymru bellach. 

Ychwanegodd Richard Wyn Jones: “O safbwynt Reform, Farage ydy’u prif ased wleidyddol nhw, mi fasan nhw’n mwynhau ei roi o ar frig eu hymgyrch nhw ar gyfer etholiad y Senedd, a’r unig ffordd i wneud hynny ydy ei gael o fel ymgeisydd yny pen draw, achos fydd pobl, a’r cyfryngau ddim yn ei gymryd o o ddifri os ydi o’n trio arwain ymgyrch ar gyfer etholiad i gorff dydy o ddim yn bwriadu sefyll iddo.

“Mae ‘na lawer o sibrydion eu bod nhw’n trio ei gael o’n isel ar ryw restr yn rhywle - bod dim ffordd fathemategol iddo gael ei ethol ond ei fod yn gallu cyflwyno ei hun fel ymgeisydd.”

Gallwch wylio rhaglen lawn Y Byd yn ei Le ar S4C Clic a BBC iPlayer. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.