Cau ffordd y tu allan Ysbyty Glan Clwyd ar ôl i nwy ollwng
Bu'n rhaid cau ffordd y tu allan i Ysbyty Glan Clwyd am gyfnod ddydd Gwener oherwydd bod nwy yn gollwng yno.
Mewn datganiad dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr bod y nwy yn gollwng “gerllaw” yr ysbyty ym Modelwyddan yn Sir Ddinbych.
Dywedodd y bwrdd nad oedd mynediad i'r ysbyty o'r A55 ar hyd Ffordd Rhuddlan am gyfnod, ar wahân i gerbydau brys.
Roedd yn rhaid i bob traffig ddod o ffordd ddeuol yr A525 ac ar hyd Ffordd Sarn.
Dywedodd y bwrdd bod “arogl nwy o amgylch y safle” ond nad oedd eu cyflenwad nhw wedi ei effeithio a doedd yna “ddim rheswm i boeni”.
“Mae cwmni Wales and West Utilities yn asesu’r gollwng a’r ffordd orau o’i drwsio, ac rydym yn cymryd cyngor ganddynt,” meddai’r bwrdd Iechyd.
“Bydd gwasanaethau i gleifion yn parhau fel arfer am y tro.”
Mewn datganiad cynharach dywedodd yr ysbyty: “Er nad oes unrhyw risg i staff na chleifion ar hyn o bryd, gallwn eich sicrhau ein bod yn monitro’r sefyllfa’n barhaus a byddwn yn darparu’r diweddariad nesaf yn fuan.”
Cafodd y ffordd ei hail-agor yn ddiweddarach yn y prynhawn.