
Trigolion Môn yn osgoi ardaloedd poblogaidd oherwydd ‘gor-dwristiaeth’
Mae trigolion sy’n byw yn ardal Niwbwrch ar Ynys Môn yn osgoi mynd i rai ardaloedd lleol lle mae gormod o dwristiaid, mae cynghorwyr wedi clywed.
Mae pobl leol wedi dweud eu bod yn osgoi ymweld â llefydd fel Llanddwyn a Choedwig Niwbwrch dros yr haf, am eu bod “mor brysur”.
Mae problemau traffig yn codi yn gyson ym mhentref Niwbwrch wrth i nifer yr ymwelwyr gynyddu yn ystod yr haf.
Cafodd sgil effeithiau gordwristiaeth eu codi mewn adroddiad i Bwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio Cyngor Môn.
Dywedodd yr adroddiad: “Mae pobol leol wedi adrodd nad ydyn nhw’n defnyddio’r goedwig na’r traeth yn ystod misoedd yr haf gan ei fod mor brysur ac oherwydd gor-dwristiaeth.
“Mae’r sefyllfa’n cael effaith niweidiol ar eu bywydau o ddydd i ddydd a’u lles.”

Fel rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae cyfrifoldeb ar gynghorau i wella llesiant pobl Cymru, yn economaidd, diwylliannol ac o safbwynt yr amgylchedd.
Yn ôl yr adroddiad, mae cynllun dwy flynedd mewn lle rhwng Mawrth 2024 a Chwefror 2026, i geisio mynd i’r afael â phroblemau traffig yn yr ardal.
Mae’r cynllun yn cynnwys cyfres o fesurau tymor byr a hirdymor, gan gynnwys syniadau sydd wedi'u cynnig gan aelodau’r gymuned leol.
Mae’r cyngor hefyd wedi bod yn cofnodi data ynglŷn â niferoedd ymwelwyr a thraffig yn yr ardal, a holi trigolion i weld os yw’r cynllun i geisio lleddfu’r problemau yn gweithio.
Maent hefyd wedi clywed gan swyddogion o Barc Cenedlaethol Eryri, sydd wedi rhannu eu “profiadau a’r gwersi a ddysgwyd” wrth ymdrin â phroblemau traffig ym Mhen y Pas.
Fe fydd adolygiad o’r cynllun peilot yn cael ei gynnal maes o law a’i rannu ar draws y rhanbarth, pe byddai’n llwyddiannus.