Y cyn AS Llafur Gwynoro Jones yn pledio'n ddieuog i gyhuddiad o ymosod yn rhywiol
Y cyn AS Llafur Gwynoro Jones yn pledio'n ddieuog i gyhuddiad o ymosod yn rhywiol
Mae'r cyn-Aelod Seneddol Llafur Gwynoro Jones wedi pledio’n ddieuog i gyhuddiad o ymosod yn rhywiol.
Fe wnaeth Mr Jones, sy'n 82 oed, ymddangos mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener.
Clywodd y llys bod Mr Jones, oedd yn gwisgo siaced siwt wen a throwsus du, wedi ei gyhuddo o ymosod yn rhywiol ar fenyw ar 11 Mehefin 2024.
Digwyddodd y drosedd honedig ar drên ac roedd yr ymosodiad wedi ei recordio ar gamera CCTV.
Fe wnaeth y Barnwr Geraint Walters osod 10 Tachwedd ar gyfer dechrau'r achos llys ac mae disgwyl iddo bara am hyd at ddau ddiwrnod.
Ychwanegodd y barnwr y bydd yr achos yn cael ei glywed yn y Gymraeg.
Cafodd Mr Jones ei ryddhau ar fechnïaeth heb amodau.