Heddlu’n targedu cannoedd o siopau barbwr a fêps yng Nghymru a Lloegr
Mae cannoedd o siopau yng Nghymru a Lloegr wedi cael eu targedu gan yr heddlu mewn cyrch tair wythnos o hyd gyda’r nod o atal gwyngalchu arian a chaethwasiaeth fodern, medden nhw.
Dywedodd yr Asiantaeth Troseddu Genedlaethol (NCA) eu bod nhw wedi ymweld â 265 o siopau barbwr, salonau trin ewinedd a siopau fêps yng Nghymru a Lloegr.
Nod yr ymgyrch oedd atal siopau stryd fawr sy’n trin llawer iawn o arian rhag cael eu defnyddio gan gangiau er mwyn cuddio enillion troseddol, meddai’r heddlu.
Dywedodd yr NCA eu bod nhw wedi arestio 35 o bobl, wedi cau 10 o siopau a bod 97 o unigolion y mae’r heddlu yn amau sy’n ddioddefwyr caethwasiaeth modern wedi cael eu rhoi dan eu gofal.
Dywedodd Rachael Herbert, dirprwy gyfarwyddwr Canolfan Troseddau Economaidd Genedlaethol yn yr NCA, bod nifer o funesau yn ffryntiau ar gyfer gwyngalchu arian.
“Rydym wedi gweld cysylltiadau â masnachu a dosbarthu cyffuriau, troseddau mewnfudo, caethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl, drylliau, a gwerthu tybaco a fêps anghyfreithlon,” meddai.
“Roedd Ymgyrch Machinize yn targedu siopau barbwr a busnesau eraill y stryd fawr yn cael eu defnyddio i guddio ystod eang o droseddau, ledled y wlad.”