'Moment enfawr': Cymeradwyo cyffur newydd yng Nghymru i drin canser y fron
'Moment enfawr': Cymeradwyo cyffur newydd yng Nghymru i drin canser y fron
Mae cyffur a fydd yn ymdrin â’r math fwyaf cyffredin o ganser y fron wedi’i gymeradwyo i'w ddefnyddio gan y GIG yng Nghymru a Lloegr.
Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) wedi rhoi sêl bendith i’r bilsen capivasertib, cam sydd wedi’i ddisgrifio fel “moment enfawr” gan wyddonwyr.
Mae canllawiau NICE yn golygu y dylai'r cyffur, a elwir hefyd yn Truqap, fod ar gael o fewn 60 diwrnod, yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
Fe fyddai’r bilsen, a fyddai angen cael ei gymryd ddwywaith y dydd, yn gallu helpu 1,100 o fenywod y flwyddyn ar hyn o bryd, neu hyd at 3,000 yn y dyfodol, sydd â chanser y fron sydd wedi datblygu.
Mae capivasertib yn gweithio drwy atal gweithredoedd y moleciwl protein annormal AKT, sydd yn achosi i gelloedd canser gynyddu mewn niferoedd.
Mae’r ymchwil i'r cyffur, sydd wedi'i ddatblygu "dros ddegawdau" gan wyddonwyr Sefydliad Ymchwil Canser (ICR) yn Llundain, yn dangos ei fod yn arafu neu atal celloedd canser rhag ymledu.
Daw’r cyhoeddiad wedi i Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ddatgan rhagolygon fis Chwefror y bydd cynnydd o 21% mewn achosion o ganser y fron yn y DU erbyn 2050.
Dywedodd yr Athro Kristian Helin, prif weithredwr ICR: “Mae hwn yn llwyddiant a fydd yn gwella triniaeth i’r cleifion sydd â’r math mwyaf cyffredin o ganser datblygedig y fron.
“Mae gan tua hanner y cleifion sydd â’r math hwn o ganser y fron drawsblygiadau (mutations) mewn un neu fwy o’r genynnau, ac i’r cleifion hyn, gall capivasertib atal datblygiad yr afiechyd.
“Rwy’n falch iawn bod mynediad at y cyffur yn cael ei ehangu i gleifion y GIG yng Nghymru a Lloegr, sydd yn wir angen opsiynau gwell."