Undeb Rygbi Cymru: Torri 'hyd at 20 o swyddi' mewn ymdrech i arbed £5m
Undeb Rygbi Cymru: Torri 'hyd at 20 o swyddi' mewn ymdrech i arbed £5m
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi cynllun ail-strwythuro a fydd yn arwain at golli hyd at 20 o swyddi.
Gobaith yr Undeb ydy y bydd ei strategaeth bum mlynedd 'Un Cymru', sy'n cynnwys adran berfformiad newydd, yn gwella sefyllfa ariannol yr undeb ac arbed hyd at £5m y flwyddyn.
Daw hyn wedi i Undeb Rygbi Cymru gymryd rheolaeth ar Rygbi Caerdydd wedi i'r clwb gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr am gyfnod.
Wrth gyhoeddi'r cynllun ail-strwythuro, dywedodd Prif Weithredwr yr Undeb, Abi Tierney: "Fe fydd yna fuddsoddiad mewn meysydd allweddol a fydd yn galluogi tyfiant, wrth i ni gwblhau ein cynllun trawsnewid. Yn anffodus, fe fydd yna nifer fach o swyddi yn cael eu colli.
"Byddwn yn sicrhau ein bod yn edrych ar ôl y bobl sydd wedi'u heffeithio gan y newidiadau hyn ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau eu lles yn ystod y broses ymgynghori."
Inline Tweet: https://twitter.com/WelshRugbyUnion/status/1910288932815700445?ref_src=twsrc%5Egoogle%7Ctwcamp%5Eserp%7Ctwgr%5Etweet
Ychwanegodd yr Undeb y bydd 'adran berfformiad ar ei newydd wedd' yn sicrhau cysylltiad rhwng timau cenedlaethol Cymru, y clybiau proffesiynol a'r llwybrau i chwaraewyr.
Dywedodd yr Undeb na fydd cymryd rheolaeth o Rygbi Caerdydd yn effeithio ar gynlluniau i ail-adeiladu'r gêm broffesiynol.
Bydd yr Undeb yn chwilio am fuddsoddwyr dros y misoedd nesaf i sicrhau fod "Caerdydd yn dychwelyd i chwarae ar frig tabl rygbi clwb."
Ychwanegodd Abi Tierney: "Mae popeth yr ydym ni'n ei wneud er mwyn gwella rygbi yng Nghymru i bawb.
"Fe wnaeth y gêm ryngwladol droi yn broffesiynol ym 1995 ond 2025 fydd y foment y byddwn yn cofio rygbi Cymru yn cwblhau y trawsnewidiad yma, i fod yn sefydliad gwbl broffesiynol, cwbl weithredol ac addas i bwrpas."