Cyhoeddi mwy o arian i hosbisau Cymru
Bydd hosbisau ledled Cymru'n derbyn arian ychwanegol i'w helpu i ddarparu gofal diwedd oes.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd 12 hosbis y Gwasanaeth Iechyd yn derbyn £5.5 miliwn "i fynd i'r afael â phwysau ariannol a sicrhau bod staff yn cael cyflog teg."
Mae'r hosbisau, sy'n cynnwys dwy hosbis plant, hefyd wedi derbyn cynnydd o £3 miliwn yn eu cyllid rheolaidd ar gyfer 2025/26.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles: “Mae hosbisau yn chwarae rhan hollbwysig o ran helpu teuluoedd ar rai o'r adegau anoddaf.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i gryfhau a gwella gofal lliniarol a gofal diwedd oes i sicrhau bod pawb sydd angen cymorth mewn hosbis yn cael cymorth urddasol a phersonol y tu allan i leoliad ysbyty.”
Dywedodd Liz Booyse, cadeirydd Hosbisau Cymru: “Rydyn ni'n croesawu'r ymrwymiad o gyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae'n dangos pwysigrwydd y sector hosbis yn ein system gofal iechyd ac rydyn ni'n hynod o ddiolchgar. Mae ein gwasanaethau yn darparu gofal a chymorth hanfodol i dros 20,000 o blant ac oedolion sy'n cael eu heffeithio gan salwch angheuol bob blwyddyn.
“Mae'r cyllid hwn yn gam pwysig ymlaen, a byddwn ni'n parhau â'n hymdrechion i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i sicrhau setliad cyllido cynaliadwy a fydd yn dod â mwy o sefydlogrwydd i'r sector hosbis yng Nghymru.”