'Crair gwerthfawr': Apêl Heddlu wedi achos o ddwyn yng Nghastell Cyfarthfa
Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth wedi i ddyn ddwyn daliwr cannwyll gwerthfawr o arddangosfa yng Nghastell Cyfarthfa, Merthyr Tudful.
Derbyniodd yr heddlu adroddiad ar ddydd Mawrth 8 Ebrill o ladrad a oedd yn cynnwys daliwr cannwyll gwerthfawr.
Maen nhw wedi rhyddhau llun o ddyn sydd mewn cysylltiad â'r lladrad.
Dywedodd yr Arolygydd Meirion Collings: “Roedd y daliwr canhwyllau yn grair gwerthfawr a byddai ei ddychwelyd yn adfer rhan bwysig o dreftadaeth y castell."
Maen nhw’n apelio ar y cyhoedd i gysylltu gyda nhw os ydyn nhw’n adnabod y dyn yn y llun drwy ffonio 101 neu drwy gysylltu ar-lein gan ddyfynnu 2500110518.
Mae rhan o Gastell Cyfarthfa bellach yn amgueddfa ac yn yr 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif bu'n gartref i deulu Crawshay fu'n berchnogion gwaith dur Cyfarthfa yn y dref.