Rygbi: Taclo'n is yn lleihau gwrthdrawiadau pen medd astudiaeth
Mae taclo yn is wrth chwarae rygbi ar lefel cymunedol wedi lleihau nifer y gwrthdrawiadau pen ymysg chwaraewyr.
Dyna mae astudiaeth newydd yn ei awgrymu.
Roedd yr ymchwil yn edrych ar effaith taclo yn is wedi i’r gyfraith ddod i rym ar gyfer rygbi ar lawr gwlad yn nhymor 2023/24.
Yr argymhelliad oedd treialu taclo yn is - o dan y frest, yn hytrach nag uchder yr ysgwydd.
Fe edrychodd yr astudiaeth ar dros 18,000 tacl dros ddau gyfnod sef 2022/23 a 2023/24.
Roedd y taclo wedi digwydd yn ystod 60 o gemau cymunedol rygbi dynion yn yr Alban.
Y casgliad gan yr ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caeredin oedd bod taclo yn is wedi golygu lleihad o 45% mewn cyswllt pen-wrth- ben sef un o brif achosion cyfergyd.
Roedd yna hefyd ostyngiad o 29% mewn cyswllt pen-i-ysgwydd ar gyfer y taclwr a’r person oedd yn cario’r bêl.
'Ymddygiad wedi newid'
Yn ôl prif awdur yr astudiaeth, Hamish Gornall, byddai yn syniad da i barhau i “graffu ar ymddygiad chwaraewyr dros gyfnod o dymhorau” wrth iddynt fabwysiadau’r newidiadau.
Mae’r astudiaeth yn rhan o brosiect rhyngwladol sydd yn cael ei arwain gan World Rugby er mwyn asesu effaith taclo yn is ar nifer o wledydd gan gynnwys Cymru.
Mae’r treial wedi cael ei fabwysiadu gan Undeb Rygbi’r Alban ac wedi ei wneud yn orfodol ar draws bob lefel o’r gêm amaturaidd.
Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Undeb Rygbi’r Alban, Dr David Pugh, eu bod yn ceisio “lleihau nifer y cyfergydion mewn cynifer o ffyrdd ag sy’n bosib.”
Ychwanegodd: “Mae ymchwil Hamish yn dangos yn glir bod ymddygiad chwaraewyr wedi newid, lleihau cyswllt pen-wrth- ben a phen- wrth-ysgwydd ac fe ddylai hyn arwain at leihau nifer y cyfergydion ymhlith ein chwaraewyr.”
Mae’r astudiaeth wedi ei chyhoeddi ym mhapur BMJ Open Sport and Exercise Medicine.