'Conglfaen yr Eisteddfod': Teyrnged i gyn-drefnydd a llywydd Eisteddfod Môn
Mae teyrnged wedi ei rhoi i gyn-drefnydd a llywydd Eisteddfod Môn, Dewi Jones, sydd wedi marw.
Roedd yn Llywydd Anrhydeddus Llys Eisteddfod Môn am ei gyfraniad i'r Eisteddfod am dros 40 mlynedd, fel golygydd, ysgrifennydd Eisteddfod Bro Goronwy 1969 a Llywydd y Llys.
Cafodd ei anrhydeddu â Medal Syr T.H. Parry Williams ym 1994 am ei gyfraniad i ddiwylliant Cymru, ac fe gafodd ei ddyrchafu i'r Wisg Wen yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1998.
Roedd hefyd yn awdur chwech o lyfrau.
Mewn teyrnged iddo, dywedodd Llys Eisteddfod Môn: "Bu’n gonglfaen yr Eisteddfod am nifer fawr o flynyddoedd.
"Bu’n drefnydd, llywydd a llywydd anrhydeddus y Llys a braint oedd cael ei wneud yn Gymrawd y Llys, anrhydedd fwyaf yr Eisteddfod, yn y blynyddoedd diwethaf.
"Roedd hyn yn dangos cymaint roedd yr Eisteddfod yn feddwl ohono. Diolch iddo am ei lafur."