Newyddion S4C

Dathlu'r babi cyntaf wedi trawsblaniad y groth

08/04/2025
trawsblaniad groth.png

Merch fach o'r enw Amy yw'r gyntaf i'w geni yn y Deyrnas Unedig wedi trawsblaniad y groth.  

Derbyniodd Grace Davidson sy'n 36 oed o ogledd Llundain yr wterws gan ei chwaer hynaf, Amy Purdie yn ystod y trawsblaniad cyntaf o'i fath yn y DU yn 2023.

Mae'r datblygiad yn rhoi gobaith i filoedd o fenywod sydd wedi eu geni heb groth, neu sydd â phroblemau yn ymwneud â'r groth. 

Cafodd y ferch fach ei henwi'n Amy Isabel, ar ôl ei modryb a roddodd yr organ i'w mam, a'r llawfeddyg aeth ati i berffeithio'r dechneg. 

Mae ei rhieni Grace ac Angus Davidson wrth eu boddau. 

Cafodd y ferch fach ei geni drwy driniaeth cesaraidd ar 27 Chwefror yn ysbyty Queen Charlotte’s and Chelsea yn Llundain. 

Image
Amy

Rhyfeddol 

Dywedodd Mrs Davidson fod y cyfan yn rhyfeddol: “Roedd hi'n anodd credu fod hyn yn real. Roeddwn yn gwybod mai'n merch ni yw hi, ond mae'n anodd credu hynny.

“Mae ein teulu mor hapus.”

Cafodd Mrs Davidson ei geni â chyflwr prin Mayer-Rokitansky-Kuster-Hauser (MRKH), sy'n effeithio ar un ym mhob 5,000 o fenywod. Mae'n golygu nad yw ei chroth wedi datblygu.

Cyn derbyn y groth, aeth Mrs Davidson a'i gŵr drwy driniaeth ffrwythloni i greu saith embryo, a gafodd eu rhewi ar gyfer IVF yng nghanol Llundain.  

Yna cafodd Mrs Davidson lawdriniaeth yn Chwefror 2023 a derbyn croth ei chwaer Amy Purdie sy'n 42 oed. Mae hi'n fam i ddwy ferch 10 a chwech oed.

Rai misoedd yn ddiweddarach, cafodd Mrs Davidson driniaeth bellach a chafodd un o'r embryonau a oedd wedi eu storio eu trosglwyddo drwy driniaeth IVF 

Emosiynol

Cafodd Amy a oedd yn pwyso 4.5lb, ei geni rhai wythnosau yn gynnar trwy driniaeth gesaraidd. Ac fe dreuliodd y fam a merch ryw wythnos yn yr ysbyty.

Yn ôl Mr Davidson, roedd yr eiliad y cyrhaeddodd ei ferch yn emosiynol iawn.

“Roeddem wedi aros mor hir. Roeddem wedi bwriadu cael teulu ers i ni briodi, ac ry'n ni wedi bod ar y daith honno ers amser hir.

“Roedd yr ystafell yn llawn pobl a fuodd yn ein helpu ni ar hyd y daith.

“Roedd yr ystafell yn llawn cariad a hapusrwydd, yr holl bobl a oedd â diddordeb ym modolaeth Amy yn feddygol a gwyddonol hefyd.

“Roedd y foment pan syllom arni am y tro cyntaf yn wefreiddiol, fe wnaeth y ddau ohonom ddechrau llefain.”

Dywedodd chwaer Mrs Davisdon, Amy Purdie, nad oedd hi wedi oedi o gwbl cyn penderfynu rhoi ei chroth i'w chwaer iau. 

“Roedd y cyfan yn naturiol iawn,” meddai.

Yn ystod ei beichiogrwydd bu'n rhaid i Grace Davidson gymryd cyffuriau i gryfhau ei himiwnedd, er mwyn sicrhau na fyddai ei chorff yn gwrthod y groth.  

Y prif lawfeddygon ar gyfer y trawsblaniad oedd yr Athro Richard Smith, sy'n arwain yr elusen Womb Transplant UK a'r llawfeddyg ymgynghorol o ganolfan trawsblaniad Rhydychen, Isabel Quiroga.

Roedd y ddau hefyd yn bresennol adeg yr enedigaeth.

Dywedodd Miss Quiroga: “Yn bersonol, roedd hwn yn achlysur llawn llawenydd. Rydw i mor hapus dros Angus a Grace, maen nhw'n gwpl arbennig.”
 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.