Newyddion S4C

'Coman': Pep Guardiola yn beirniadu cefnogwyr am eu sylwadau am Phil Foden

07/04/2025
Pep Guardiola

Mae rheolwr Manchester City, Pep Guardiola, wedi beirniadu cefnogwyr pêl-droed Manchester United wedi i sylwadau cas gael eu cyfeirio tuag at Phil Foden.

Yn ystod y gêm ddarbi rhwng y ddau dîm dydd Sul cafodd sylwadau cefnogwyr eu gweiddi am fam yr asgellwr dro ar ôl tro.

Wrth siarad mewn cynhadledd i'r wasg yn dilyn y gêm, dywedodd Guardiola y dylai'r cefnogwyr "fod â chywilydd o'u hunain".

"Ond dim United yw hyn. Y bobl yw hyn, 'dach chi'n gwybod?," meddai.

"Rydyn ni'n cael ein hamlygu i'r peth o hyd mewn pêl-droed - yn enwedig y rheolwyr, y perchnogion a'r chwaraewyr pêl-droed.

"I fod yn onest fedra i ddim deall meddylfryd pobl trwy gyfeirio at fam Phil. 

"Mae'n dangos nad ydynt yn ddidwyll, eu bod yn goman ac fe ddylen nhw fod â chywilydd o'u hunain."

Di-sgôr oedd y canlyniad ar ddiwedd y gêm rhwng y ddau dîm.

 

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.