Cynnig grant i ysgolion gynyddu nifer yr athrawon sy'n siarad Cymraeg
Mae grant gan Lywodraeth Cymru yn rhoi cyfle i ysgolion uwchradd ddatblygu mwy o athrawon sy’n medru siarad Cymraeg.
Y bwriad yw taclo problemau staffio tymor byr a chynyddu nifer y staff sydd yn medru siarad yr iaith meddai’r llywodraeth.
Mae’r grant ar gyfer Medi 2025 ymlaen a bydd £900,000 ar gael ar gyfer y flwyddyn academaidd honno.
Y llynedd cafodd 55 o grantiau eu rhoi i ysgolion uwchradd Cymru. Yn eu plith roedd Ysgol Rhydywaun yn Aberdâr.
Fe ddefnyddiodd yr ysgol yr arian i gynnig dau bwnc Safon Uwch ychwanegol yn y Gymraeg, sef Seicoleg a Throseddeg.
Fe wnaethon nhw hefyd gydweithio gydag ysgolion cyfagos i ddatblygu gweithgareddau i gyfoethogi iaith yr athrawon.
Dywedodd y Pennaeth, Lisa Williams: "Yma, yn Rhydywaun, mae'r grant i ddatblygu capasiti'r gweithlu addysg wedi sicrhau bod gennym ddarpariaeth ac adnoddau o ansawdd uchel i'n disgyblion a chyfleoedd dysgu proffesiynol llwyddiannus i'n staff.
"Diolch i'r grant rydym wedi gallu sicrhau ein bod yn rhagweithiol wrth recriwtio a chadw athrawon a datblygu arbenigedd o fewn y proffesiwn.
"Oherwydd hynny, gwelwyd gwelliant ym mherfformiad a chyflawniad academaidd y disgyblion."
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod yr ysgolion eraill wedi elwa trwy gynnig cyfleoedd i bobl ifanc gael profiad gwaith yn ystod blwyddyn allan neu brentisiaethau mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.
'Cyrraedd eu potensial'
Fe wnaeth rhai ysgolion gydweithio i gynnig hyfforddiant proffesiynol i fod yn athrawon, yn enwedig mewn pynciau lle mae prinder.
Roedd y grantiau hefyd wedi golygu bod modd i fyfyrwyr israddedig gael profiad o fod mewn dosbarth a’u hannog i ystyried bod yn athrawon fel swydd.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: "Mae datblygu gweithlu i addysgu Cymraeg fel pwnc, a darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, yn hanfodol er mwyn creu mwy o siaradwyr Cymraeg. Mae'r grant hwn yn un o'r cynlluniau arloesol sydd gennym ar waith i gyflawni hynny.
"Rwy'n benderfynol o sicrhau ein bod yn cefnogi dysgwyr i gyrraedd eu potensial llawn ac yn darparu'r cyfleoedd datblygu proffesiynol sydd eu hangen ar athrawon i barhau i godi safonau yn ein hysgolion."