Newyddion S4C

Heddlu yn diolch i gefnogwyr Wrecsam ar ôl i ddyn ddioddef argyfwng meddygol

05/04/2025
Cefnogwyr Wrecsam yn erbyn Wycombe Wanderers

Mae'r heddlu wedi diolch i gefnogwyr Wrecsam ar ôl i ddyn ddioddef argyfwng meddygol cyn eu gêm ddydd Sadwrn.

Mewn datganiad dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bu'n rhaid iddyn nhw ymateb i ddyn yn dioddef argyfwng meddygol yn y dref.

Bu'n rhaid cau Stryd Stansty fore Sadwrn wrth i'r heddlu ddelio gyda'r digwyddiad.

Cafodd dau ambiwlans awyr hefyd eu galw er mwyn cynorthwyo'r swyddogion heddlu.

Mae'r dyn bellach yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty.

Diolchodd yr heddlu cefnogwyr Wrecsam oedd wedi "dangos gofal a thosturi i'r dyn dioddefodd argyfwng meddygol."

Enillodd Wrecsam 3-0 yn erbyn Burton Albion, gan gadw eu gobeithion o sicrhau dyrchafiad i'r Bencampwriaeth yn fyw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.