'Emosiynol': Harri Morgan yn dychwelyd i Stadiwm Principality ar ôl gadael rygbi proffesiynol
Fe fydd cyn-fewnwr tîm dan 20 Cymru yn camu’n ôl ar faes Stadiwm Principality ddydd Sadwrn, a hynny ddwy flynedd ar ôl gadael y gêm broffesiynol i flaenoriaethu ei iechyd meddwl.
Yn 2023, fe wnaeth Harri Morgan, o Ben-y-bont ar Ogwr, gyhoeddi y byddai'n rhoi’r gorau i chwarae i rygbi proffesiynol, ac yntau’n 23 oed.
Roedd wedi bod yn aelod o garfan y Gweilch ers 2018, ac wedi ennill 11 cap dros dîm Dan 20 Cymru, pan ddaeth y cyhoeddiad annisgwyl.
Dywedodd ar y pryd ei fod wedi "dioddef yn ddistaw" am flynyddoedd yn dilyn marwolaeth ei fam-gu a tha- cu, yn ogystal â sawl anaf.
Ond ers Tachwedd y llynedd, mae Morgan wedi dychwelyd i gêm y bêl hirgron ar ôl arwyddo dros Glwb Rygbi Tondu, yn ardal Abercynffig, Pen-y-bont.
Ac fe fydd y clwb yn cael y cyfle i chwarae ar y maes cenedlaethol brynhawn dydd Sadwrn i herio Llanelli Wanderers, ar ôl cyrraedd rownd derfynol Cwpan y Bencampwriaeth.
“Mae’n rhywbeth byddwn i’n meddwl fyddwn i byth yn neud eto,” meddai Harri Morgan. “Chwarae mewn stadiwm fel hon pan fi di camu nôl o chwarae’n broffesiynol.
Inline Tweet: https://twitter.com/S4Cchwaraeon/status/1908458140506501483
“Bydd e’n emosiynol i fod nôl ar gae mawr fel ‘na ond yn rhywbeth fi’n hynod o gyffrous i wneud.”
Yn ogystal â ddychwelyd i’r chwarae'r gêm sydd wedi bod yn rhan o'i fywyd ers ei fod yn blentyn, mae ei waith fel hyfforddwr ffitrwydd hefyd wedi ei “achub”, meddai.
“Mae Tondu yn glwb rili cymunedol, just cymuned rili agos gyda’i gilydd.
“Mae’r bois i gyd o’r ardal lleol. Mae’n clwb rili dda.
“Mae gym fi wedi achub fi hefyd rili, y teimlad o allu helpu pobl eraill drwy ffitrwydd. Mae’ rhoi llawer nôl i fi.”
Dwy flynedd ar ôl ei benderfyniad i flaenoriaethu ei iechyd meddwl, mae Harri yn annog pobl sydd yn dioddef i rannu eu profiadau ag eraill.
“Pan chi’n broffesiynol, mae eich swydd chi, so mae popeth chi’n neud yn dibynnu ar beth ti’n neud ar benwythnos pan ti’n chwarae.
“Oedd e’n amser eitha' galed. Ac oedd rhywbeth angen rhoi, i fi allu cario ymlaen. A rygbi oedd y peth yna.
“Roeddwn i ddim yn mwynhau. So oedd y penderfyniad yn un eitha hawdd ond anodd ar yr un tro. So mi oedd 'na pros a cons i’r ddau ohonyn nhw.
“Fi 'di colli pobol yn fy mywyd i o iechyd meddwl ac os y’ch chi ddim yn gallu siarad am fe fydd neb yn gallu helpu. Mae help mas yna so mae’n rhaid i chi siarad gynta i allu gael yr help yna.”
Fe fydd y gêm rhwng Llanelli Wanderers a Thondu yn cael ei ddangos yn fyw ar S4C am 15:15 ar ddydd Sadwrn.
Os ydych wedi cael eich effeithio gan faterion sydd yn cael eu trafod yn yr erthygl hon, mae cymorth ar gael yma.
Prif Lun: Harri Morgan ar ôl ei ymddangosiad cyntaf dros Dondu (Clwb Rygbi Tondu)