Newyddion S4C

Betsi Cadwaladr i drawsnewid hen swyddfeydd cyngor yn ganolfan iechyd

Adeilad Caledfryn yn Ninbych

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi prynu cyn swyddfeydd Cyngor Sir Ddinbych, gyda'r bwriad o agor canolfan iechyd yn yr adeilad.

Ym mis Chwefror, cafodd y bwrdd iechyd ganiatâd i newid defnydd adeilad Caledfryn ar Ffordd y Ffair yn Ninbych.

Mae'r bwrdd iechyd bellach wedi cwblhau'r pryniant ac yn gobeithio trawsnewid y swyddfeydd yn ganolfan iechyd a lles i bobl y dref.

Mae cynlluniau ar gyfer y ganolfan newydd yn cynnwys cymysgedd o wasanaethau i blant ac oedolion.

Mae disgwyl i dîm adnoddau cymunedol, bydwreigiaeth, iechyd meddwl cymunedol ac anableddau dysgu symud i'r safle. 

Mae'r prosiect yn cael ei gefnogi'n ariannol gan Lywodraeth Cymru.

'Cyffrous'

Dywedodd Gareth Evans, cyfarwyddwr cymuned iechyd integredig ardal y canol y bwrdd, fod y datblygiad yn un "cyffrous iawn" i bobl Dinbych. 

"Mae’n dod â gwasanaethau hanfodol i un ganolfan," meddai.

"Bydd y cynllun yn cryfhau cysylltiadau gyda phartneriaid pwysig fel Cyngor Sir Ddinbych ac yn darparu gwasanaethau lleol o ansawdd uchel i bobl leol. 

"Mae hyn yn rhywbeth y mae pobl yng ngogledd Cymru yn dweud wrthym yn gyson eu bod eisiau mwy ohono."

Mae'r Cynghorydd Elen Heaton, yr aelod arweiniol dros iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghyngor Sir Ddinbych, hefyd yn croesawu'r newyddion.

"Mae galwadau cynyddol, cyson ar dimau iechyd a gofal cymdeithasol ac mae’r gwaith y maen nhw’n ei wneud yn y gymuned yn amhrisiadwy," meddai.

"Bydd y ganolfan newydd hon o fudd gwirioneddol i Ddinbych."

Yn ôl y bwrdd iechyd, mae disgwyl i wasanaethau anghlinigol symud i adeilad Caledfryn yn yr hydref. 

Yna, yn amodol ar gyllid pellach gan Lywodraeth Cymru, bydd cyfnod o adnewyddu cyn i'r gwasanaethau clinigol symud i'r adeilad yn gynnar yn 2026.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.