Newyddion S4C

‘Mwy nag erioed o'r blaen’ o blant yn cystadlu am le yn Eisteddfod yr Urdd

Cystadleuwyr Eisteddfod yr Urdd

Mae mwy nag erioed o'r blaen o blant wedi cystadlu am le yn Eisteddfod yr Urdd eleni yn ôl y trefnwyr.

Bydd 80,937 o blant wedi camu ar lwyfannau Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth eleni, ffigwr “sydd yn fwy nag erioed o’r blaen” meddai’r Urdd.

Y rhanbarth â’r nifer uchaf o gystadleuwyr ar draws Cymru yw’r ardal sy’n croesawu’r brifwyl eleni, sef Gorllewin Morgannwg, medden nhw.

Bydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal ym Mharc Margam, Castell-nedd Port Talbot, yn ystod hanner tymor mis 26-31 Mai.

Dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru eu bod nhw’n “ymfalchïo” o weld cynnydd yn eu cystadleuwyr unwaith eto eleni.

“Mae Eisteddfod yr Urdd yn ddathliad o ddoniau di-ri ein plant a’n pobl ifanc, ac yn chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo a chynnal y Gymraeg ynghyd â’r celfyddydau yng Nghymru,” meddai.

“Diolch i bawb am gymryd rhan, a llongyfarchiadau i’r rheiny sydd drwodd i’r Genedlaethol - welwn ni chi ym Margam!”

Mae’r Urdd eisoes wedi cadarnhau y bydd teuluoedd incwm is yn medru hawlio tocynnau am ddim i Faes Eisteddfod yr Urdd eleni wedi cefnogaeth ariannol o £200,000 gan Lywodraeth Cymru.

Mae tocynnau mynediad i’r Maes bellach ar werth a thocynnau cyw cynnar ar gael tan 1 Mai.

Dywedodd y Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant ei fod yn edrych ymlaen at groesawu’r ymwelwyr i’r ŵyl.

“Mae’n wych clywed fod mwy o blant a phobl ifanc o Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot wedi cystadlu mewn Eisteddfodau lleol nag erioed o’r blaen, a mwy nag unrhyw ranbarth arall yng Nghymru eleni,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.