Tanau gwair: 'Peidiwch cysylltu os nad yw’n argyfwng'
Mae’r gwasanaethau tân wedi dweud nad oes “angen rhagor o alwadau” am y tanau gwyllt sy’n parhau i losgi mewn sawl ardal yng Nghymru, oni bai ei fod yn argyfwng.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a'r Gorllewin wedi nodi eu bod yn derbyn "nifer fawr o alwadau" yn ymwneud â thanau glaswellt.
Dywedodd fod pump o danau gwair yn llosgi ar draws yr ardal; ym Mrynberian yng Nghrymych; yn Hebron a Glandŵr ger Hendy-gwyn; yng Nghefn Rhigos ger Aberdâr a Llanllwni, Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod yn ymwybodol o danau yng Nghefn Golau, Tredegar, Pontycymer, a'r Pandy ddydd Mawrth, a’u bod yn asesu’r sefyllfa fore Mercher.
Maen nhw hefyd wedi bod yn asesu tân mawr yn ardal Wattsville a Cross Keys a ddechreuodd losgi nos Fawrth.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod wedi defnyddio drôn ar gyfer y digwyddiad hwn, a’u bod wedi derbyn 44 o alwadau ffôn.
Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd y gwasanaeth nad “oes angen rhagor o alwadau” gan y cyhoedd yn ymwneud â’r tanau hynny.
Yn y gogledd, mae’r gwasanaeth tân yn parhau i ddiffodd tân yng Ngarndolbenmaen, a ddechreuodd nos Lun.
Mae dau dân arall a oedd yn llosgi yng Ngwynedd nos Fawrth, un yn Eisingrug ger Harlech, ac un arall yn Nebo, wedi eu diffodd erbyn hyn.
Daw hyn wedi i wasanaethau tân Cymru, fel rhan o Fwrdd Tanau Gwyllt Cymru, ryddhau datganiad yn annog y cyhoedd "i fod yn ymwybodol o beryglon tanau gwyllt dros dymhorau’r gwanwyn a'r haf."
“Yn yr haf, gall glaswelltir a mynyddoedd fod yn sych iawn, sy’n golygu y gall tân sydd wedi’i gynnau y tu allan ledaenu yn gyflym iawn, gan ddinistrio popeth sydd ar ei lwybr.” meddai.
Cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd ddydd Mawrth, mai mis Mawrth oedd yr ail fwyaf heulog ar gofnod yng Nghymru, gyda 53% yn fwy o oriau o haul na'r cyfartaledd ar gyfer y mis.