Newyddion S4C

Caernarfon: Cyflwyno cais i gael gwared ar lethr cae'r Oval

02/04/2025
Oval

Mae cais cynllunio wedi cael ei gyflwyno er mwyn cael gwared â llethr adnabyddus cae clwb pêl-droed Caernarfon. 

Mae'r cais yn rhan o ailddatblygu’r stadiwm yng nghanol y dref, gyda lefelu'r cae yn ganolbwynt i'r cynllun.

Fe fydd y cae newydd yn un glaswellt, fel sydd yno'n barod.

Yn ôl y cais cynllunio mae gan y cae "system ddraenio wael.” 

Mae hyn yn cael effaith uniongyrchol ar safon y cae medd y cais.

Mae ‘na gwymp “cyson” o gornel ogledd-ddwyreiniol y cae tuag at dde-orllewin y cae gan olygu fod ‘na ostyngiad llethr o tua 2.775mm. 

Mae’r cais cynllunio yn dweud na ddylai'r graddiant fod yn uwch na 2.5%, gan argymell graddiant o 1%. 

Y gobaith yw y byddai’r cynlluniau yn creu “mwy o gyfleoedd” i bêl-droedwyr chwarae’r gêm “ar safon uwch” – a hynny drwy leihau’r llethr i raddiant o 1.43%. 

Mae’r cais cynllunio hefyd yn amlinellu strwythur posib newydd a fydd angen ei ganiatáu er mwyn codi lefel y tir. Byddai'r strwythur yn “gwella” ardal y gwylwyr ger y cae, meddai’r cais. 

Daw’r cynlluniau fel rhan o brosiect a fydd yn buddsoddi £123 miliwn yn 2024/25 er mwyn cefnogi stadia ar lawr gwlad ar hyd y Deyrnas Unedig. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.