Newyddion S4C

Seren Batman a Top Gun, Val Kilmer wedi marw

Val Kilmer

Mae'r actor Val Kilmer wedi marw yn 65 oed.

Bu farw Kilmer o niwmonia yn Los Angeles ddydd Mawrth, meddai ei ferch Mercedes wrth gyfryngau’r Unol Daleithiau.

Roedd yn fwyaf adnabyddus am actio yn y ffilm Top Gun yn yr 1980au ac actio'r cymeriad Batman yn Batman Forever yn 1995.

Yn 1991 cafodd ganmoliaeth am ei bortread o'r cerddor Jim Morrison yn y ffilm 1991 The Doors. Ei rôl olaf oedd yn y ffilm dilyniant Top Gun: Maverick yn 2022.

Fe gafodd ganser y gwddw yn 2014 ac fe wnaeth o drafod y salwch yn ei hunangofiant yn 2020. Roedd yn rhaid iddo gael traceostomi wnaeth niweidio ei lais.

Dywedodd mewn rhaglen ddogfen: "Dwi'n amlwg yn swnio yn waeth nag ydw i yn teimlo."

Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i chi wneud y dewis rhwng anadlu neu fwyta. Mae'n rhwystr sydd yn amlwg iawn i bwy bynnag sydd yn fy ngweld."

Wrth roi teyrnged iddo dywedodd yr actor Josh Gad ei fod yn "eicon" tra bod yr actor Josh Brolin, mab James Brolin, wedi dweud ei fod yn ddyn "clyfar, heriol, dewr, creadigol dros ben ac ychydig yn wyllt".

Yn 1988 fe briododd yr actores o Brydain, Joanne Whalley, a chael dau o blant. Fe wnaethon nhw ysgaru yn 1996. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.