Newyddion S4C

Y Llewod i herio De Affrica yn yr ail Brawf

Newyddion S4C 31/07/2021

Y Llewod i herio De Affrica yn yr ail Brawf

Ar ôl wythnos o densiwn yn y byd rygbi, mae’r diwrnod mawr wedi cyrraedd wrth i’r Llewod baratoi i herio De Affrica yn yr ail Brawf.

Bydd y Llewod yn gobeithio am ganlyniad cystal â’r fuddugoliaeth o 22-17 yn erbyn y Springboks ddydd Sadwrn.

Yn dilyn colled y tîm cartref, fe wnaeth eu cyfarwyddwr Rassie Erasmus ryddhau fideo awr o hir yn beirniadu’r dyfarnu yn ystod y gêm agoriadol.

Dywed Erasmus na chafodd ei gapten, Siya Kolisi ei drin â’r un lefel o barch ag Alun Wyn Jones.

‘Ddim yn poeni am egwyddorion y gêm’

Mae’r sylwebydd rygbi Lauren Jenkins wedi disgrifio sylwadau Erasmus fel rhai “digynsail”.

“Dyw e ddim yn beth anghyffredin i glywed hyfforddwyr yn cwyno am ddyfarnwyr, ond mae’n beth hollol unigryw i glywed monolog o un awr yn cwestiynu penderfyniadau Nick Berry,” meddai.

“Ac mae’n rhaid cofio fod Nick Berry dal i fod yn rhan o’r gyfres fel swyddog cynorthwyol i’r ddau Brawf nesaf.

“Felly dwi’n yn gwybod os mae’n trio effeithio penderfyniadau, ond un peth sy’n sicr yw dyw e ddim yn neud hyn oherwydd bod e’n poeni am egwyddorion y gêm.

Image
Alun Wyn Jones
Alun Wyn Jones fydd yn arwain carfan y Llewod unwaith eto. 
Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans

Mewn cynhadledd i’r wasg ddydd Iau, dywedodd Alun Wyn Jones nad oedd wedi gwylio’r fideo gan ychwanegu mai’r dyfarnwr sydd â’r swydd anoddaf ar y cae chwarae.

Ef sy’n arwain y Llewod ddydd Sadwrn, gan ennill ei 11eg cap Prawf olynol.

Fe fydd Dan Biggar yn safle'r mewnwr, os yw'n llwyddo cwblhau'r protocol dychwelyd-i-chwarae ac asesiad gan ymgynghorydd cyfergyd annibynnol.

Ar y fainc fydd Ken Owens a Taulupe Falateau, gyda thri newid i’r garfan.

Mae Conor Murray o'r Iwerddon, Chris Harris o'r Alban a Mako Vunipula o Loegr yn ymuno â'r XV.

Bydd y gic gyntaf ddydd Sadwrn am 17:00.

Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.