Adfer hen enw Cymraeg gorsaf drenau yn ‘rhy gostus’
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dweud y byddai adfer hen enw Cymraeg gorsaf drenau yng Ngwynedd yn rhy gostus.
Roedd rhai pobl yn y gymuned leol wedi galw am newid enw gorsaf Llanbedr yn ne'r sir i’w enw hanesyddol Halt Talwrn Bach.
Mae'r arhosfan wledig ar reilffordd Arfordir y Cambrian rhwng Aberystwyth a Phwllheli.
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cytuno i gynnwys cyfeiriad at yr hen enw mewn llythrennau llai ar arwydd newydd sydd ar fin cyrraedd gorsaf Llanbedr.
Roedd y Cynghorydd Gwynfor Owen wedi holi ar ran Cyngor Cymuned Llanbedr am y “posibilrwydd” o adfer yr enw Cymraeg ar gyfer arwydd swyddogol yr orsaf.
Fe gafodd y mater ei drafod eto mewn cyfarfod o Bwyllgor Cyswllt Rheilffordd Arfordir y Cambrian, ddydd Gwener.
Yno roedd cynrychiolydd o Drafnidiaeth Cymru, Gail Jones wedi trafod y gwelliannau diweddaraf i orsaf Llanbedr.
Roedd y rhain yn cynnwys gwaith i’r hysbysfwrdd, adnewyddu fframiau posteri a newidiadau i fodloni brand Trafnidiaeth Cymru. Roedd yna waith ffensio a phaentio a thrwsio'r gysgodfan bresennol gan gynnwys ei tho sydd wedi bod yn gollwng.
Roedd lloches newydd ar ei ffordd ond roedd arolwg wedi darganfod nad oedd yr hen sylfeini yn ddigon sefydlog i gynnal yr adeilad newydd.
Cynigiwyd arwydd gorsaf gwyn newydd gyda llythrennau mawr du yn dweud ‘Llanbedr’ a llythrennau llai ar yr ochr dde yn dweud yn Gymraeg: “Dewch oddi ar y trên yma ar gyfer Talwrn Bach.”
“Fe ofynnwyd i ni am gael arwydd gyda’r hen enw Talwrn Bach ond fel dw i wedi dweud o’r blaen dydyn ni ddim yn gallu gwneud hynny,” meddai wrth y cyfarfod.
“Byddai newid yr arwydd yn dasg mor enfawr a drud, mae’n holl rwydweithiau cyfrifiadurol a phopeth y byddai’n rhaid eu newid, byddai’n costio gymaint o arian i wneud hynny,” meddai.
‘Colli enwau’
Yn absenoldeb y Cynghorydd Gwynfor Owen, cafodd Morfydd Lloyd ganiatâd i siarad ar ran Cyngor Cymuned Llanbedr gan ddweud ei fod yn “well na dim”.
Byddai'n rhaid iddi fynd â'r wybodaeth yn ôl i Gyngor Cymuned Llanbedr i'w gyfarfod nesaf ddydd Iau.
“Mae’r arwydd yn fawr gyda lle i roi Talwrn Bach i mewn fel ag yr oedd yn y 1970au/80au,” meddai.
Roedd cadw statws yr enw yn “bwysig, fel na fyddai’n cael ei ddiystyru na’i anghofio’n llwyr,” meddai.
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod dywedodd: “Halt Talwrn Bach’ oedd ei enw erioed ac mae’n dal i gael ei adnabod wrth yr enw hwnnw gan y bobl leol.
“Roedden ni’n gwybod y byddai’n dipyn o gost i’w newid a doedden ni ddim yn disgwyl iddyn nhw newid popeth. Roedden ni eisiau i ‘Talwrn Bach’ fod yn fwy amlwg.
“Nid oes sôn amdano o gwbl ar hyn o bryd, felly fel y dywedais yn y cyfarfod mae’n well na dim am wn i.
“Mae’n drueni colli’r hen enwau Cymraeg hyn, roedd bob amser yn cael ei enwi ar ôl y ffarm oedd yno.
“Rydym eisiau i’n plant a’n hwyrion adnabod yr hen enwau ac mae’n braf i ymwelwyr eu hadnabod hefyd.”
Llun: Halt Talwrn Bach.