Carcharu dyn am ymosod yn 'giaidd' ar blismon
Mae dyn 37 oed o Sir Torfaen wedi cael ei garcharu am chwe blynedd a phedwar mis, ar ôl iddo ymosod ar blismon mewn modd 'ciaidd'.
Cafodd y cwnstabl Nathan Attwell ei ddyrnu droeon gan Richard Nodwell yng Nghwmbrân ar 20 Rhagfyr 2023.
Cafodd Mr Attwell anafiadau i'w foch a'i lygad.
Ar ôl yr ymosodiad, clywodd Llys y Goron Caerdydd i Richard Nodwell boeri ar blismon arall a chnoi esgid un arall.
Roedd angen naw o swyddogion yn y pendraw i'w arestio.
Roedd Mr Attwell ar ei ben ei hun, wrth iddo ymateb i alwad 999 gan ferch Nodwell a ddywedodd ei fod yn ceisio mynd i'w thŷ.
Daeth y plismon o hyd i'r diffynnydd ger eglwys yng Nghwmbrân.
Yn ddiweddarach, clywodd y llys i Richard Nodwell ymosod arno yn ddibaid, gan ddefnyddio ei ddyrnau er mwyn taro Mr Attwell yn ei wyneb a'i ben, cyn ei wthio i'r llawr.
Plediodd Richard Nodwell yn euog i achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol, a dau achos o ymosod ar weithiwr argyfwng.
Cafodd ddedfryd o chwe blynedd a phedwar mis o dan glo gyda thair blynedd ychwanegol ar drwydded.
Dywedodd y Barnwr Hywel James bod Mr Attwell wedi cael ei ddyrnu 12 i 13 gwaith.
"Doedd e ddim yn fygythiad i chi ar unrhyw adeg," meddai wrth Richard Nodwell.
Ofn cysgu
Ar ôl y ddedfryd, cyhoeddodd Nathan Attwell ddatganiad trwy Heddlu Gwent yn disgrifio ei ofn noson yr ymosodiad.
"Pan fyddwch chi’n ymuno â’r gwasanaeth heddlu, mae stigma’n gysylltiedig â’r swydd ac mae’n rhaid i chi ddioddef sarhad weithiau, ac mae hynny’n gallu bod ar ffurf gweiddi, rhegi, poeri neu gicio," meddai.
"Er hynny, does neb yn mynd i’r gwaith i gael rhywun yn ymosod arnyn nhw, yn enwedig pan maen nhw’n ceisio helpu rhywun.
"Ar noson yr ymosodiad roeddwn i ofn mynd i gysgu rhag ofn i mi beidio â deffro.
"Pam mae pobl fel Nodwell yn credu bod ymosod ar swyddogion heddlu’n iawn?"
Ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron, dywedodd yr uwch erlynydd Ryan Randall: “Mae hwn yn un o'r ymosodiadau gwaethaf i mi ei weld ar swyddog yr heddlu
“Mae unrhyw ymosodiad neu gamdrinaeth ar weithiwr argyfwng yn cael drin fel mater difrifol tu hwnt gan Wasanaeth Erlyn y Goron.
"Mae gweithwyr argyfwng yno i gynorthwyo'r cyhoedd, a dylai bod modd iddyn nhw wneud hynny yn ddiogel heb ofn."