Newyddion S4C

Llys yn gwahardd Le Pen rhag sefyll yn etholiad Arlywyddol Ffrainc

31/03/2025
le pen.png

Mae llys wedi gwahardd Marine Le Pen, arweinydd plaid adain dde eithafol y Rali Genedlaethol yn Ffrainc rhag sefyll mewn etholiad am bum mlynedd.

Mae’n golygu na fydd un o’r ceffylau blaen yn ras arlywyddol y wlad yn gallu sefyll yn yr etholiad nesaf yn 2027.

Fe gafwyd y gwleidydd yn euog o gymryd arian yn anghyfreithlon o gronfa'r Undeb Ewropeaidd yn gynharach ddydd Llun.

Roedd Le Pen ac wyth o bobl eraill, a oedd yn aelodau o Senedd Ewrop ar y pryd, yn euog o wneud hynny, ynghyd â 12 o gynorthwywyr, clywodd y llys.

Dywedodd y Barnwr Benedicte de Perthuis wrth y llys nad “camgymeriadau gweinyddol” oedd yn gyfrifol ond ymgais fwriadol i leihau costau’r blaid.

Yn eistedd yn rheng flaen y llys, ysgydwodd Marine Le Pen ei phen wrth i’r barnwr siarad, yn ôl asiantaeth newyddion Reuters.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.