Newyddion S4C

Rhyl: Gwrthdrawiad rhwng injan dân a dau gar

Gwrthdrawiad rhwng injan dân a dau gar yn y Rhyl. (Llun: Neils Drone Services)
Gwrthdrawiad rhwng injan dân a dau gar yn y Rhyl

Mae injan dân oedd ar alwad wedi taro yn erbyn dau gerbyd yn y Rhyl. 

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar groesffordd Ffordd Tŷ Newydd sydd yn rhedeg ar hyd yr A548, Ffordd yr Arfordir, nos Sul.

Cafodd yr heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans eu galw yno. 

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Roedd cerbyd yn rhan o wrthdrawiad tra ar y ffordd i ddigwyddiad yng Ngronant nos Sul 30 Mawrth.

"Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd yr Arfordir, Rhyl am 18:36. Roedd tri cherbyd yn y gwrthdrawiad, sef injan dân a dau gar.

"Cafodd Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaethau Ambiwlans Cymru eu galw i'r digwyddiad ond yn dilyn asesiadau daeth cadarnhad nad oedd unrhyw anafiadau.

"Yn dilyn y gwrthdrawiad, cafodd criw tân arall ei anfon i'r digwyddiad gwreiddiol yng Ngronant.”

Roedd y ffordd ar gau tra roedd y gwasanaethau brys yn delio â'r gwrthdrawiad.

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.