Galw am £6m er mwyn helpu ymdrechion dyngarol Myanmar
Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn galw am dros £6 miliwn yn syth er mwyn helpu yn yr ymdrechion dyngarol yn Myanmar wedi'r daeargryn yno.
Fe wnaeth y daeargryn, oedd yn mesur 7.7 ar y raddfa Richter, daro'r wlad fore Gwener.
Erbyn hyn mae dros 1,700 o bobl wedi marw.
Mae'r daeargryn wedi achosi difrod difrifol i seilwaith y wlad, gan gynnwys ei ffyrdd a'i rhwydweithiau cyfathrebu.
Yn ôl sefydliadau cymorth mae’r sefyllfa dyngarol yn y wlad yn debygol o waethygu.
Ar hyn o bryd mae rhyfel cartref yn y wlad, rhwng y llywodraeth filwrol, grwpiau gwrthryfelwyr a’r lluoedd arfog.
O achos grym y daeargryn mae Gwlad Thai hefyd wedi cael ei heffeithio.
Yn Bangkok, prifddinas Gwlad Thai, mae miloedd wedi gorfod gadael adeiladau sydd wedi eu difrodi.
Mae 18 o bobl wedi marw yno ar ôl i ddwr uchel ddymchwel yn sgil y daeargryn.
Mae’r ymdrechion yn parhau i geisio rhyddhau 76 o weithwyr adeiladu sydd yn dal i fod yn sownd o dan yr adeilad.