
‘Rhaid ei gadw yn y gymuned’: Brwydr i achub safle pwll nofio Harlech
Mae dau grŵp cymunedol yng Ngwynedd yn brwydro i achub safle pwll nofio yn eu tref.
Fe wnaeth pwll nofio Harlech gau ei ddrysau ym mis Awst y llynedd yn sgil diffyg arian.
Ers hynny, mae trigolion y dref wedi dod at ei gilydd i geisio sicrhau nad yw'r safle'n cael ei werthu.
Mae dau grŵp bellach wedi cyflwyno cynlluniau busnes i drawsnewid yr adeilad – a hynny er budd y gymuned.
Bydd Cyngor Tref Harlech yn penderfynu os fydd un o'r grwpiau yn cael gwireddu eu gweledigaeth yn yr wythnosau nesaf.
'Ased i'r gymuned'
Bwriad Cynllun y Bobl, sy’n cynnwys wyth o drigolion Harlech, yw adfer y pwll nofio a’r wal ddringo.
Yn ôl un aelod o'r grŵp, Oisin Lowe-Sellers, sy'n gweithio i Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru, mae'r ganolfan yn "ased" i'r dref.
"Ein gôl ni ydi creu safle newydd yn defnyddio'r pwll i greu wellness centre i bawb yn y gymuned o bob oedran," meddai wrth Newyddion S4C.
"Roedd y wal ddringo bob amser yn llawn, roedd yn rhaid disgwyl am fisoedd i gael gwersi, so 'da ni isho cadw’r hyn sydd yna ac adeiladu arnyn nhw.
"Cadw’r pwll nofio, cadw’r wal ddringo, ac adeiladu gwahanol pethau o amgylch hwnna hefyd i wellness a mental health."

Ac yntau wedi cael ei fagu yn Harlech, mae Oisin wedi elwa o gael pwll nofio a wal ddringo ar ei garreg ddrws.
"Mi es i Ysgol Ardudwy a dw i'n cofio mynd yna i ddringo a dysgu sut i nofio, ac mae'n mor bwysig i ddisgyblion a’r gymuned gael y sgiliau yna," meddai.
"Roedd pobl efo disabilities hefyd yn defnyddio’r pwll trwy’r adeg achos mae nofio’n sgil amazing i bawb – mae wir yn ased i’r gymuned."
Fe aeth ymlaen i ddweud bod dros 100 o bobl leol wedi mynd i gyfarfod cyhoeddus fis diwethaf i drafod dyfodol y safle.
"'Da ni wedi cael gymaint o bobl yn y gymuned yn gofyn os 'da ni isho help efo rwbeth," meddai.
"Mae’n briliant i weld pobl yn ceisio helpu ni i achub y pwll a’i roi yn ôl i’r gymuned."
Grŵp arall sy'n gobeithio achub y safle yw Academi Gymnasteg y Moelwyn, a gafodd ei sefydlu ym Mlaenau Ffestiniog dros 40 mlynedd nôl.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r clwb wedi symud i Harlech ond nid yw eu cartref presennol yn ddigon mawr.

Ar hyn o bryd, mae'r clwb yn rhoi gwersi gymnasteg i rhwng 60 ac 80 o blant yr wythnos.
Ond dywedodd un o hyfforddwyr y clwb, Leanne Merrill, y gallen nhw gynnig gwersi i hyd at 140 o blant mewn canolfan mwy.
"Mae dwy ran i'n gweledigaeth ni: un ydi i sichrau nad ydi'r adeilad yn mynd i adfail fel y coleg, 'da ni isio gwneud yn siŵr ei fod ar gyfer y gymuned," meddai.
"Ac yn ail, rydym yn angerddol dros les cofforol a meddyliol."
Yn ôl Leanne, byddai trawsnewid y pwll nofio yn ganolfan gymnasteg yn galluogi'r clwb i "gael effaith ar fywydau cymaint mwy o bobl ifanc".
Ychwanegodd bod y clwb hefyd yn awyddus i gael "gofod i'r gymuned" gael ei ddefnyddio.
"Rydym eisiau ailagor y caffi fel bod rhywle i blant fynd i gwrdd â'u ffrindiau ar ôl ysgol," meddai.
"Rhywle y gall pobl ddod i gael nosweithiau ffilm neu nosweithiau bingo, neu alw heibio am baned a sgwrs."
Byddai'r clwb hefyd yn cydweithio â busnesau lleol i gynnig gwersi ioga a Pilates, meddai Leanne.

Mae'r Cynghorydd Gwynfor Owen, sy'n cynrychioli Harlech a Llanbedr, yn gobeithio y bydd un o'r grwpiau cymunedol yn cael y les.
"Y peth dwi ‘di bwysleisio ydi bod angen i’r safle gael ei gadw er lles cymuned Harlech," meddai.
"Mi nes i ddysgu sut i nofio yn pwll nofio Harlech pan o'n i’n naw oed a hynny ar ôl colli ffrind ddaru foddi yn y môr.
"Mi fyswn i wrth fy modd yn gweld pobl leol yn ei redeg er budd y gymuned – mae hynny’n holl bwysig i mi.
"Peth dwytha swni’n licio weld ydi bod y lle yn cael ei ddymchwel a bod 10 o dai mil o bunnoedd yr un, fysa o ddim budd o gwbl i’r gymuned."
Pam fod y pwll wedi cau?
Cafodd y pwll nofio ei agor yn y 1970au, ond dros y blynyddoedd diwethaf roedd dyfodol y safle wedi bod yn destun pryder.
Ym mis Ionawr 2024, cafodd y grŵp oedd yn rhedeg y pwll nofio, sef Hamdden Harlech & Ardudwy, rybudd eu bod yn wynebu toriad cyllid.
Ers blynyddoedd roedd y pwll wedi bod yn cael ei ariannu gan gynghorau cymuned leol a Chyngor Gwynedd, ond dywedodd cynghorau cymuned Talsarnau, Llanbedr a Dyffryn Ardudwy a Thal-y-bont nad oedd modd iddyn nhw barhau i ariannu’r safle.
Dywedodd Hamdden Harlech & Ardudwy ar y pryd fod y penderfyniad wedi eu gadael gyda bwlch ariannol o £30,000 y flwyddyn.
Mae Cyngor Tref Harlech bellach wedi cymryd cyfrifoldeb dros y safle ac yn bwriadu ei brydlesu neu ei werthu.