Galw'r heddlu i ysgol yng Nghaernarfon wedi i blentyn o ysgol arall ymddangos yno
27/03/2025
Cafodd yr heddlu eu galw i ysgol yng Ngwynedd ddydd Iau wedi i ddisgybl o ysgol arall ymddangos yno, gan "greu cynnwrf" ymysg rhai o'r disgyblion.
Mewn neges i rieni a gwarcheidiaid gan bennaeth Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon, dywedodd bod "disgybl o ysgol arall" wedi dod ar safle'r ysgol yn ystod amser cinio.
"Bu hyn i greu cynnwrf ymysg rhai o'n disgyblion a bu rhaid galw'r heddlu i dywys y disgybl i ffwrdd o'r safle."
Ychwanegodd y neges bod yr ysgol wedi ymateb yn syth i'r hyn ddigwyddodd, a bod cymorth ar gael i unrhyw ddisgybl oedd wedi eu heffeithio gan y digwyddiad.