Sir Benfro: Menyw oedrannus wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad
Mae menyw oedrannus wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Benfro ddydd Mercher.
Bu farw’r fenyw o ganlyniad i’w hanafiadau medd Heddlu Dyfed-Powys.
Mae’r llu bellach yn apelio am lygad dystion all fod â gwybodaeth neu ddelweddau dashcam i’w helpu gyda’u hymchwiliad.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd – sef Hyundai coch a Ford Transit gwyn – ar ffordd yr A477 rhwng ardaloedd Broadmoor a Redberth am tua 14.40 y prynhawn.
Mewn datganiad, dywedodd y llu: “Yn anffodus bu farw menyw oedrannus, sef gyrrwr y Hyundai, yn sgil ei hanafiadau.
“Mae ei theulu yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.”
Cafodd y ffordd ei chau fel rhan o ymchwiliad yr heddlu, gan ail-agor yn ddiweddarach am 21.00 nos Fercher.