Darganfod corff babi mewn bag ger eglwys
Mae babi wedi ei ddarganfod yn farw mewn bag siopa y tu allan i eglwys yn Llundain.
Daeth gweithiwr sbwriel y cyngor o hyd i’r bag Marks and Spencers y tu allan i Eglwys All Saints’ ger Ffordd Talbot yn Notting Hill tua 12:45 brynhawn dydd Mawrth.
Yn y bag, roedd bachgen bach newydd-anedig wedi marw.
Mae Heddlu Llundain wedi galw ar y fam, sydd wedi rhoi geni i’r babi’n ddiweddar iawn, i gysylltu gyda nhw ‘er ei lles a’i hiechyd ei hun”.
Mewn datganiad, dywedodd yr Uwch Arolygydd Owen Renowden bod y darganfyddiad yn un “trasig”.
“Rwyf am ganmol proffesiynoldeb y gweithiwr sbwriel lleol yn arbennig a hefyd y gwasanaethau brys a ymatebodd i’r digwyddiad ddoe, ac rwy’n gwybod ei fod wedi effeithio’n fawr arnyn nhw.” meddai.
“Er mor syfrdanol a thrasig yw hyn, fy mlaenoriaeth o hyd yw lles ac iechyd y fam.”
Dywedodd Marcia Haynes, dirprwy warden eglwys All Saints, sydd hefyd yn byw'n lleol, nad oedd hi “erioed wedi clywed dim byd fel hyn yn fy mywyd”.
Dywedodd wrth ohebwyr: “Fe ddes i yma i baratoi ar gyfer y banc bwyd a gwelais lawer o heddlu yn cyrraedd a phan ddes i allan roedd yr holl ardal wedi’i dapio i ffwrdd.
“Fe wnaeth o fy llorio i, roedd yn rhaid i mi fynd adref gan fy mod i’n teimlo’n sâl, i fod yn onest.
“’Dwi wedi bod yma ers 1966, a dwi erioed wedi clywed am unrhyw beth fel hyn yn fy mywyd”.
Cafodd tusw o flodau a thegan cwningen eu gadael wrth ymyl coeden yn agos i'r man lle'r oedd pabell yr heddlu nos Fawrth.
Apeliodd Renowden yn uniongyrchol ar y fam, gan ddweud: “Rydyn ni’n poeni’n fawr am ei lles… bydd hi wedi rhoi genedigaeth yn ddiweddar.”
“Rwy’n gwybod y bydd hi’n debygol o fod yn teimlo’n ofnus iawn ac yn mynd trwy gyfnod anodd iawn.”
“Os mai chi yw mam y babi a’ch bod chi’n gweld hwn heddiw, rydw i eisiau apelio’n uniongyrchol atoch chi i gamu ymlaen a derbyn cymorth.”