Newyddion S4C

Y Tywysog Harry wedi ymddiswyddo o elusen a sefydlwyd 'er cof am Diana'

26/03/2025
Dug Sussex Harry

Mae’r Tywysog Harry wedi gadael ei rôl fel noddwr elusen yn Affrica gafodd ei sefydlu er cof am ei fam, Y Dywysoges Diana.

Fe sefydlodd Harry'r elusen Sentebale yn 2006 gyda’r Tywysog Seeiso o Lesotho, gwlad sydd â chysylltiad arbennig â Chymru.

Bwriad yr elusen yw helpu pobl ifanc a phlant yn Affrica, yn enwedig y rhai sydd yn byw gyda HIV ac Aids.

Ond mae nifer o’r ymddiriedolwyr wedi gadael yn sgil anghydfod gyda chadeirydd y bwrdd, Dr Sophie Chandauka.

Maen nhw yn galw arni hi i ymddiswyddo.

Yn ôl the Times, mae’r ddadl yn ymwneud gyda’r penderfyniad i ganolbwyntio ar godi arian yn Affrica.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Dug Sussex a’r Tywysog Seeiso eu bod wedi gadael yr elusen gyda “chalonnau trwm”.

“Bron 20 mlynedd yn ôl fe wnaethon ni sefydlu Sentebale er cof am ein mamau. 

"Mae Sentebale yn golygu 'paid anghofio fi' yn Sesotho, iaith leol Lesotho. Dyna rydyn ni drwy’r amser wedi addo i’r bobl ifanc rydyn ni wedi gwasanaethu drwy’r elusen hon.

“Dyw heddiw yn ddim gwahanol. Gyda chalonnau trwm rydyn ni wedi ymddiswyddo o’n rôl fel Noddwyr y mudiad. 

"Rydyn ni wedi gwneud hyn er mwyn dangos cefnogaeth ac undod gydag ymddiriedolwyr y bwrdd sydd hefyd wedi gorfod gwneud yr un peth.”

Mae’r datganiad yn dweud bod y berthynas rhwng y cadeirydd a’r ymddiriedolwyr wedi suro a bod y sefyllfa erbyn hyn yn “anghynaladwy”.

'Ymddwyn uwchlaw'r gyfraith'

Wrth ymateb mae Dr Chandauka wedi beirniadu’r Dug am fynd at y wasg.

Dywedodd hi mewn datganiad bod hi’n gwneud popeth er lles y “bobl ifanc” mae’r elusen yn helpu ac mai “tegwch” i bawb sydd yn bwysig iddi.

“Mae yna bobl yn y byd yma sydd yn ymddwyn fel eu bod uwchlaw'r gyfraith ac yn cam-drin pobl ac wedyn yn dweud eu bod yn ddioddefwr. 

"Maent yn defnyddio’r wasg maent yn dirmygu er mwyn brifo’r bobl sydd gyda’r dewrder i herio eu hymddygiad.”

Dywedodd ei bod wedi “chwythu’r chwiban ar faterion o lywodraethu gwael, rheoli gwan, camddefnydd o bŵer, bwlio, aflonyddu, casineb at fenywod, hiliaeth at fenywod du a cheisio celu’r gwir wedyn. 

"Fe allen ni fod yn unrhyw un. Dwi jest yn digwydd bod yn fenyw addysgedig sydd yn deall y bydd y gyfraith yn fy arwain a’n amddiffyn i.”

Mae hefyd yn dweud ei bod wedi cysylltu gyda’r Comisiwn Elusennol am yr ymddiriedolwyr a bod yr Uchel Lys wedi cyhoeddi gwaharddeb brys fel na fydd yn rhaid iddi adael ei rôl.

Mae’r ymddiriedolwyr wedi dweud eu bod wedi ymddiswyddo o achos eu bod “wedi colli ffydd a hyder yng nghadeirydd y bwrdd”. 

Yn ôl y Tywysog Harry a’r Tywysog Seeiso fe fyddan nhw yn “rhannu pryderon” gyda’r Comisiwn Elusennol.

Mae’r Comisiwn Elusennol yn dweud “eu bod yn ymwybodol o’r pryderon am lywodraethant” a’u bod yn ystyried y camau nesaf. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.