
Blwch post cyntaf y Brenin Charles wedi'i osod yn Y Trallwng

Mae blwch post cyntaf Brenin Charles III yng Nghymru wedi ei osod ar Stryd Severn yn Y Trallwng, Powys.
Ymunodd is-arglwydd-raglaw Powys, Tony Evans, â thrigolion y Trallwng i arwain y seremoni agored.
"Mae'n hyfryd cael y blwch post cyntaf gyda seiffr y Brenin Siarl yng Nghymru. Mae wedi bod yn bleser mawr datgelu hynny heddiw," meddai Mr Evans.

Disgyblion ysgol lleol bostiodd y llythyr cyntaf yn y blwch post.
"Ysgrifennais lythyr arbennig at y Brenin, i ddweud wrtho am yr amgylchedd yn y Trallwng, a sut rydyn ni'n ei chadw'n ddiogel," meddai un disgybl.
Dwedodd David Gold ar ran y Post Brenhinol: "Dyma un o nodweddion teyrnasiad newydd. Pan fydd seiffr yn ymddangos ar flwch post, rydych chi'n gwybod bod gennych Frenin newydd.
"Y rheswm rydym ni yn Y Trallwng heddiw yw oherwydd dyma’r lle nesaf a oedd angen blwch post. Ni wnaethon ni ei ddewis fel lleoliad penodol."
Cafodd blychau post eu cyflwyno yn 1853, ac ers hynny, mae dros 115,000 wedi eu gosod ar draws y Deyrnas Unedig.