Newyddion S4C

Dynes mewn cyflwr difrifol ar ôl gwrthdrawiad â char oedd yn cael ei ddilyn gan yr heddlu

S4C

Mae dynes mewn cyflwr difrifol ar ôl bod mewn gwrthdrawiad gyda char oedd yn cael ei ddilyn gan gar yr heddlu yn Wrecsam nos Lun.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ychydig wedi 21.30 yn ardal Hightown rhwng Ffordd Belgrave a Ffordd Percey.

Roedd y gwrthdrawiad rhwng ceir Mercedes a Toyota - gyda'r Mercedes yn cael ei ddilyn ar y pryd gan swyddogion o Heddlu'r Gogledd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw, gan gynnwys criwiau ambiwlans a thân.

Fe gafodd dyn a dynes oedd yn y Toyota eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol. 

Ers hynny mae'r ddau wedi'u trosglwyddo i Ysbyty Stoke lle mae'r ddynes mewn cyflwr critigol. 

Mae’r dyn yn derbyn triniaeth am anafiadau sydd wedi eu disgrifio fel rhai fydd yn newid ei fywyd.

Gadawodd gyrrwr a'r teithwyr oedd yn y Mercedes yr ardal ac mae'r heddlu'n parhau i chwilio amdanyn nhw.

Dywedodd y Ditectif Brif Uwcharolygydd Sian Beck: “Rwy’n apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad ac nad yw eisoes wedi siarad â’r heddlu, i ddod ymlaen.

“Rwyf hefyd yn apelio ar unrhyw un a oedd yn teithio yn yr ardal ar adeg y gwrthdrawiad i gysylltu â ni – yn enwedig unrhyw un â chamera dash neu gamerâu cylch cyfyng a allai helpu gyda’n hymchwiliadau.

“Gallai eich cymorth chi fod yn hollbwysig wrth adnabod y rhai sy’n gyfrifol.

“Gallwch gysylltu â ni drwy ffonio 101, neu drwy ein gwefan, gan ddefnyddio rhif cyfeirnod C041381.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.