'Gall harddwch naturiol Ynys Môn roi cydbwysedd gwell i bobl ifanc'
'Gall harddwch naturiol Ynys Môn roi cydbwysedd gwell i bobl ifanc'
Mae pentref Aberffraw yn le gwyliau poblogaidd iawn.
Mae nifer o'r tai yma, erbyn hyn yn ail-gartrefi neu'n gartrefi gwyliau.
Sut felly, mae'r bobl leol yn ei gweld hi o ran denu pobl ifanc yn ol i fyw yma?
Roedd hi'n brysur yn y dafarn, yn bobl leol ac ymwelwyr.
"Does dim byd i neb rwan."
Be ddylen nhw wneud?
"'Sa Wylfa'n gwneud.
"Os 'sa nhw'n dod a Wylfa arall, 'sa 'na obaith o waith i'r hogiau.
"Dyna ydy o, de."
"Sbiwch o gwmpas. Hen bobl i gyd.
"Mae pobl yn dod i fyw yma m'ond i retireio.
"Sgennych chi ddim chance, nagoes? Does na'm byd yma i'r hogiau ifanc."
Yn gweithio tu ol i'r bar, dau o bobl ifanc yr ardal.
"Mae 'na lot mwy o bethau 'sa nhw'n gallu gwneud yma."
Fel be?
"'Dan ni angen mwy o opportunities efo sports yma.
"Does dim hanner digon i bobl ifanc, genod especially."
"'Swn i'n hoffi gallu mynd ar y cychod i 'sgota.
"Dyna be sy'n neis am fan'ma."
Fyddach chi'n gallu aros ar yr ynys i weithio?
"'Swn i'n licio mynd i ffwrdd i weithio ar y cychod.
"Me 'na well opportunities a ballu.
"Ond byswn i'n gallu aros hefyd."
Mewn byd lle mae mwy yn medru gweithio o bell ac o adref mae'r Aelod Seneddol lleol yn gobeithio y gall harddwch naturiol yr ynys roi cydbwysedd gwell i bobl ifanc rhwng bywyd a gwaith.
"Mae o'n realiti.
"Yn y swydd flaenorol welais i bobl yn gadael y cyngor er mwyn mynd i weithio i sefydliadau yng Nghaerdydd a Llundain, ond dal yn byw adref.
"Mae o yn realiti.
"Mae o'n bwysig bod ni'n gweld gwerth ein bod yn byw mewn amgylchedd mor braf yn Ynys Mon.
"Be mae hynny'n gwneud lles i ni. Mae balans i gael.
"Mae isio dangos bod o'n bosib ar yr ynys.
"Dod a datblygiadau tai i fewn a nifer o agweddau i fewn i sicrhau bod pobl yn dod nol i Ynys Mon i fyw, bod gynnon nhw gartre da yma a gwasanaethau i wasanaethu teuluoedd."
Mae angen edrych tu hwnt i be sy ddim ar yr ynys a mantesio ar be sy yma yn ol nifer a cheisio cadw'r Monwysion ifanc rhag hedfan i ffwrdd.