UDA i drafod cadoediad gyda Rwsia a Wcráin
Mae swyddogion o’r Unol Daleithiau yn trafod y posibilrwydd o gynnal cadoediad arall gyda swyddogion o Wcráin a Rwsia mewn cyfarfodydd ar wahân ddydd Llun.
Gobaith Washington ym mhrifddinas Riyadh, Saudi yw y bydd modd dod i gytundeb er mwyn atal y rhyfela yn Wcráin.
Maen nhw’n gobeithio y byddai’r ddwy wlad yn cytuno cynnal cadoediad rhannol unwaith eto, gan arwain at gytundeb mwy cynhwysfawr yn ddiweddarach.
Mae llysgennad yr UDA i’r Dwyrain Canol, Steve Witkoff wedi mynegi ei fod yn teimlo bod Arlywydd Rwsia yn barod am heddwch.
Dywedodd ei fod yn disgwyl gweld datblygiadau nodweddiadol yn dilyn y trafodaethau ddydd Llun.
Ond wrth siarad â’r cyfryngau yn Rwsia, dywedodd llefarydd y Kremlin, Dmitry Peskov “da ni dim ond ar ddechrau’r llwybr,” meddai wrth sôn am ddyfodol cytundeb.
Daw wedi i brifddinas Wcráin, Kyiv, ddioddef ymosodiad ffyrnig gan Rwsia ddydd Sadwrn. Bu farw tri o bobl, gan gynnwys merch pump oed.
Mae Arlywydd Wcráin Volodymyr Zelensky wedi dweud bod angen “gwthio Putin” er mwyn iddo roi’r gorchymyn i atal yr ymosodiadau.
“Mae'n rhaid i’r un a ddechreuodd y rhyfel ei atal hefyd,” meddai.
Mae Rwsia wedi dweud y bydd yn ystyried arwyddo cytundeb arall 30 ddiwrnod o hyd ar ôl trafod eu hamodau. Mae Wcráin eisoes wedi dweud eu bod yn cytuno gyda’r hyn mae swyddogion America wedi eu cynnig fel rhan o’r trafodaethau.
Llun o'r difrod diweddaraf yn Kyiv, Wcráin (Wochit)