Prif Weinidog newydd Canada yn galw etholiad cynnar
Mae Prif Weinidog newydd Canada, Mark Carney, wedi galw etholiad cynnar.
Fe gafodd Carney, sy’n gyn-lywodraethwr Banc Lloegr, ei ethol yn arweinydd y Blaid Ryddfrydol gydag 86.84% o’r bleidlais gan olynu y cyn Brif Weinidog Justin Trudeau yn gynharach yn y mis.
Am hanner dydd heddiw, amser Canada, fe aeth Mak Carney i ymweld â Llywodraethwr Cyffredinol Canada, Mary Simon, a gofyn iddi ddiddymu’r Senedd.
Daw’r etholiad wedi i arolygon barn awgrymu bod cefnogaeth y Blaid Ryddfrydol yng Nghanada ar gynnydd.
Maen nhw wedi gweld cynnydd mewn poblogrwydd yn sgil tariffau'r Arlywydd Donald Trump a'i fygythiad i ychwanegu Canada fel 51aid talaith yr Unol Daleithiau.
Fe fydd Mark Carney yn wynebu cystadleuaeth agos gan arweinydd y Ceidwadwyr Pierre Poilievre.
Mae’r pleidiau eraill yn cynnwys Plaid y Democratiaid Newydd, sy’n cael ei arwain gan Jagmeet Singh, a’r Bloc Quebecois sydd dan arweinyddiaeth Yves-Francois Blanchet.
Bydd disgwyl i’r ymgyrch etholiadol barhau am pump i chwech wythnos.