Torri mwy na £2 biliwn y flwyddyn o gyllideb y gwasanaeth sifil
Bydd y gwasanaeth sifil yn cael cais i dorri mwy na £2 biliwn y flwyddyn o’i gyllideb erbyn diwedd y ddegawd fel rhan o adolygiad gwariant y Llywodraeth.
Bydd Swyddfa’r Cabinet yn dweud wrth adrannau i dorri eu cyllidebau gweinyddol o 15%, ac mae disgwyl i hynny arbed £2.2 biliwn y flwyddyn erbyn 2029-30.
Yn gyntaf, bydd gofyn iddyn nhw leihau cyllidebau o 10% erbyn 2028-29 mewn ymgais i arbed £1.5 biliwn y flwyddyn, sydd yn ôl pennaeth yr FDA - yr undeb sy'n cynrychioli gweithwyr sifil - yn cyfateb i bron i 10% o fil cyflog y gwasanaeth sifil.
Mae cyllidebau gweinyddol yn cynnwys adnoddau dynol, cyngor polisi a rheolaeth swyddfa yn hytrach na gwasanaethau rheng flaen.
Dywedodd ffynhonnell o Swyddfa'r Cabinet: “Er mwyn cyflawni ein 'Cynllun ar Gyfer Newid' byddwn yn ail-lunio'r wladwriaeth fel ei fod yn addas ar gyfer y dyfodol. Ni allwn barhau fel hyn.
“Trwy dorri costau gweinyddol gallwn dargedu adnoddau at wasanaethau rheng flaen – gyda mwy o athrawon mewn ystafelloedd dosbarth, apwyntiadau ysbyty ychwanegol a’r heddlu.”
'Mympwyol'
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol undeb yr FDA, Dave Penman, fod yr undeb yn croesawu symud oddi wrth “dargedau cyfrif pennau crai” ond bod y gwahaniaeth rhwng y swyddfa gefn a’r rheng flaen yn “artiffisial”.
“Mae llywodraethau etholedig yn rhydd i benderfynu ar faint y gwasanaeth sifil y maent ei eisiau, ond mae’n anochel y bydd toriadau ar y raddfa a’r cyflymder hwn yn effeithio ar yr hyn y bydd y gwasanaeth sifil yn gallu ei gyflawni ar gyfer gweinidogion a’r wlad.”
Anogodd weinidogion i nodi pa feysydd gwaith y maent yn barod i roi'r gorau iddynt fel rhan o gynlluniau gwariant.
“Bydd y cynllun hwn yn ei gwneud yn ofynnol i weinidogion fod yn onest â’r cyhoedd a’u gweithwyr sifil am yr effaith y bydd hyn yn ei gael ar wasanaethau cyhoeddus," meddai.
Rhybuddiodd Mike Clancy, ysgrifennydd cyffredinol undeb Prospect, “nad yw gwasanaeth sifil rhatach yr un peth â gwasanaeth sifil gwell”.
“Mae Prospect wedi rhybuddio’r llywodraeth yn gyson rhag mabwysiadu targedau mympwyol ar gyfer toriadau yn nifer y staff yn y gwasanaeth sifil sy’n ymwneud yn fwy ag arbed arian nag am ddiwygio gwirioneddol yn y gwasanaeth sifil," meddai.
“Mae’r Llywodraeth yn dweud na fyddan nhw’n disgyn i’r trap hwn eto. Ond bydd hyn yn gofyn am asesiad cywir o’r hyn y bydd y gwasanaeth sifil yn ei wneud a’r hyn na fydd yn ei wneud yn y dyfodol.”
Mae disgwyl i Rachel Reeves wneud cyhoeddiad am doriadau gwariant ar ôl i ffigyrau newydd ddangos benthyca uwch na’r disgwyl.