Chwe Gwlad: Cymru'n colli 24-21 oddi cartref yn erbyn yr Alban
Colli 24-21 oddi cartref yn erbyn yr Alban oedd hanes Cymru yn eu gêm agoriadol yn y Chwe Gwlad.
Dyma oedd gêm gyntaf hyfforddwr newydd Cymru, Sean Lynn wrth y llyw.
Ac roedd dechrau addawol iawn i Gymru wrth i’r bachwr Carys Phillips, ar ei 80fed cap, sgorio ar ôl chwe munud yn unig wedi i Gymru ennill cic i’r gornel oddi ar sgrym.
Ceisiodd yr Alban daro nôl yn syth ond llwyddodd Cymru i ddwyn y meddiant ddwywaith yn eu 22 eu hunain.
Bu’n rhaid i Gymru amddiffyn am eu bywydau am gyfran helaeth o’r hanner ond wedi 17 munud o guro ar y drws fe lwyddodd yr Alban i ennill cic gosb. 3-7.
Roedd yr Alban yn credu eu bod nhw wedi sgorio drwy Rachel Malcolm ar ôl sgarmes symudol ac fe giciodd Helen Nelson y pwyntiau ychwanegol cyn i’r dyfarnwr alw am adolygiad.
Wedi hir ystyried fe benderfynodd y dyfarnwr Kat Roche bod y sgarmes yn anghyfreithlon gan fod un o chwaraewyr yr Alban yn camsefyll.
Yn y pen draw fe wnaeth yr Alban ddod o hyd i ffordd drwy amddiffyn Cymru, gyda’r asgellwr Rhona Lloyd yn torri drwy’r llinell amddiffyn cyn cael ei hatal ar y gwyngalch.
Aeth y bêl drwy’r dwylo a llwyddodd y clo Sarah Bonar i yrru dros y llinell gais, gyda Helen Nelson yn trosi.
Roedd rhagor o newyddion drwg i Gymru wrth i’r wythwr Georgia Evans dderbyn cerdyn melyn am chwalu sgarmes Albanaidd yn anghyfreithlon yn y cyfnod cyn y cais.
10-7 oedd y sgôr ar yr hanner.
Ail hanner
Yr Alban ddechreuodd yr ail hanner gryfaf ac roedd yn ymddangos eu bod nhw wedi sgorio cais arall yn y munudau cyntaf drwy Lisa Thomson.
Ond unwaith eto fe benderfynodd y dyfarnwr na fyddai y cais yn cyfri’ oherwydd chwaraewr yn rhwystro'r amddiffyn.
Ond fe aeth yr Alban 17-7 ar y blaen yn fuan wedyn wrth i’r canolwr Emma Orr garlamu i lawr y cae i sgorio.
Roedd Georgia Evans bellach yn ôl ar y cae ond cafodd gerdyn melyn arall - ac felly cerdyn coch - wedi tacl uchel a fwriodd ben Chloe Rollie.
Yn ffodus i Gymru fe gafodd Evie Gallagher o’r Alban hefyd gerdyn melyn yn fuan wedyn, a gafodd ei uwchraddio i goch, ar ôl rycio peryglus.
Llwyddodd Cymru i agosáu at wyngalch yr Alban drwy sgarmes symudol ac fe groesodd Abbie Fleming i sgorio. Yr Alban 17- 14 Cymru.
Gyda munudau yn weddill llwyddodd Cymru i leihau'r diffyg i dri phwynt gyda chais drwy’r eilydd o brop Gwenllian Pyrs.
Ond fe enillodd yr Alban gic gosb ar ôl ail ddechrau a llwyddo i gadw’r meddiant nes y chwiban olaf.