Caergybi: Rhybudd i rieni ar ôl cymryd cyllell gan blant wedi adroddiad am ymosodiad
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi rhybudd i rieni ar ôl dweud eu bod nhw wedi cymryd cyllell oddi ar blant ar Ynys Môn.
Yn gynharach ddydd Sadwrn fe gafodd swyddogion Heddlu Caergybi eu galw i adroddiad fod plant â chyllell yn eu meddiant, medden nhw.
Honnwyd bod y plant wedi ymosod ar fachgen ifanc arall a’i fygwth â chyllell. Roedd pawb a oedd yn rhan o’r digwyddiad rhwng 12 a 13 oed.
Daliodd swyddogion y ddau unigolyn cyn cymryd y gyllell oddi arnyn nhw.
Mae ymchwiliadau’n mynd rhagddynt gyda’r unigolion dan sylw yn aros i gael eu cyfweld am feddu ar arf â llafn ac ymosodiad cyffredin.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod y digwyddiad hwn yn “ein hatgoffa o bwysigrwydd cadw ein cymunedau'n ddiogel ac amddiffyn ein pobl ifanc rhag y peryglon sy'n gysylltiedig â chario arfau".
Dywedodd PC Griffith o Gaergybi: “Rydym yn annog rhieni a gwarcheidwaid i gael sgyrsiau agored gyda’u plant am risgiau a chanlyniadau difrifol cario cyllyll.
“Mae’n hollbwysig ein bod i gyd yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau diogelwch a lles ein cymunedau, yn enwedig ein pobl ifanc.
“Mae hyn yn hynod bryderus i weld plant mor ifanc â 12 oed yn cario cyllyll ac yn ymwneud â throseddau treisgar."