Newyddion S4C

Gorfod colli 30 stôn 'i allu byw'

24/03/2025

Gorfod colli 30 stôn 'i allu byw'

“Dwi wedi cael fy mywyd yn ôl i bob pwrpas,” meddai Ioan Pollard o Gaernarfon. 

Mae Ioan newydd gael trawsblaniad aren - ond am flynyddoedd doedd hyn ddim yn bosib gan ei fod gymaint dros ei bwysau.

“Y record trymaf o’m mhwysau i ydi 45 stôn,” meddai Ioan ar raglen arbennig ar S4C sy’n dilyn ei daith. 

Ar ôl bod ar ddialysis am saith mlynedd oherwydd ei bwysau, yn 35 oed, mae o’r diwedd wedi cael trawsblaniad aren llwyddiannus. 

“Drwy’n ugeiniau o’n i’n gwybod bod fy arennau i’n ddiffygiol, a’n parhau i ddirywio, ond i fi doedd trawsblaniad ddim yn opsiwn a’r gwir plaen am hynny ydi am gyfnod o’n i’n anferth.

“Felly dwi’n hynod falch o fod wedi cyrraedd sefyllfa lle o’n i medru derbyn aren gan Mam."

Image
Ar ei drymaf roedd Ioan yn pwyso 45 stôn
Ar ei drymaf roedd Ioan yn pwyso 45 stôn

Colli 30 stôn 

Ar ôl bron â cholli ei fywyd yn 27 oed roedd yn rhaid i Ioan golli 30 stôn er mwyn gallu cael ei ystyried am drawsblaniad aren, ac yn ôl ei feddyg Dr Siva Shrikanth, fe yw’r achos cyntaf iddo ddod ar draws sydd wedi cael triniaeth fariatrig i gyrraedd y nod. 

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Ioan wedi derbyn pedair llawdriniaeth, gan gynnwys llawes gastrig a thriniaethau i dynnu croen. 

“Mae achos Ioan yn un arbennig oherwydd nad oedd yn cael y llawdriniaethau ar gyfer rhesymau cosmetig, ond ar gyfer gallu derbyn trawsblaniad yn ddiogel," meddai.

"Does dim llawer o gleifion fel Ioan yn y Deyrnas Unedig, heb sôn am Gymru.”

Mae Ioan yn gobeithio y bydd gwasanaethau bariatrig ar gael yn haws i gleifion fel ei hun yn y Deyrnas Unedig. Mae'n teimlo yn freintiedig iawn fod Dr Shrikanth wedi gweithio yn galed iddo gael y triniaethau.

“O’n i wedi trio bob diet oedd yn mynd, ond wrth i fy arennau ddirywio roedd angen gwneud rhywbeth drastig ac yn sydyn os oeddwn i am weld y blynyddoedd nesa, a dwi mor ddiolchgar fod hynny wedi bod yn bosib,” meddai Ioan. 

Ychwanegodd Ioan: “Ma’r pwnc o lawdriniaethau i helpu pobol golli pwysau yn un hynod ddadleuol a dwi’n medru gwerthfawrogi hynny ond dwi wirioneddol yn medru dweud bod o wedi achub fy mywyd i.”

Yn ogystal â’r problemau meddygol ddaeth yn sgil maint Ioan, roedd hefyd yn ei rwystro rhag “byw bywyd normal” ac mae’n dweud ei fod wedi cyrraedd ei faint oherwydd ei fod yn “lot rhy farus ac yn lot rhy ddiog".

“Mi oedd o yn salwch mae’n siŵr," meddai. 

"Oedd bwyd a bwyta yn rheoli be o’n i’n neud a sut o’n i’n byw fy mywyd. Ar y pryd baswn i byth wedi cyfadda mod i yn ddibynnol ar fwyd ac yn gorfwyta, ond wrth edrych yn ôl, yn amlwg mi oeddwn i.”

‘Euogrwydd’

“Ma’n dod ag euogrwydd mawr i fi be nath hyn neud i’r bobol o nghwmpas i a sut nath o effeithio nhw, sut bod teulu a ffrindiau wedi poeni. Ar y pryd falle do’n i ddim wedi ystyried faint oedda’ nhw'n poeni," meddai Ioan.

Fe wnaeth Ioan golli tair stôn mewn cyfnod o wythnos ar ôl derbyn triniaeth llawes gastrig, ac fe wnaeth sylwi yn sydyn fod ei bwysau wedi ei gaethiwo. 

“Beth oedd yn rhyfeddol wrth i’r pwysa ddisgyn i ffwrdd oedd sut oedd petha ddim yn bosib cyn y llawdriniaeth mwya sydyn yn bosib, a ma’n anhygoel meddwl bod y fath garchar o’n i wedi neud i fi fy hun yn bodoli," meddai.

Ond wrth i’w bwysau leihau, roedd arennau Ioan yn dal i ddirywio a bu’n derbyn triniaeth dialysis bedair gwaith yr wythnos am saith mlynedd. 

“Drwy gydol hyn, y prif nod oedd cyrraedd lle o’n i ddigon iach i gael trawsblaniad, a pan wnaeth Mam ddeud ei bod hi am roi aren i mi o’n i mor ddiolchgar," meddai.

‘Diolch’

Ym mis Hydref y llynedd fe dderbyniodd Ioan drawsblaniad aren yn llwyddiannus gan ei fam.

Mae Ioan yn parhau i wella yn dilyn y trawsblaniad ond mae’n fwy penderfynol nag erioed i wneud yn fawr o bob cyfle a gwerthfawrogi bywyd. 

“Dwi wedi wynebu heriau, mae’n siŵr rhai o’r heriau mwya all rhywun wynebu mewn bywyd a ddim yn siŵr os o’n i’n mynd i fyw i weld y bora," meddai.

“O’n i wedi byw mor gaeth yn cario’r holl bwysa ’na, ma’ bod yma rŵan yn atgoffa fi pa mor fregus ydi bywyd a bod y cyfla yma dwi wedi gael a’r rhodd dwi ’di gael gan Mam. 

"Mae o mor bwysig rŵan bo’ fi’n parchu y rhodd yna.”

Gwyliwch 'Marw Isio Byw' nos Lun 24 Mawrth am 20:00 ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.