Jeremiah Azu yn ennill Pencampwriaeth Athletau Dan Do'r Byd
Jeremiah Azu yn ennill Pencampwriaeth Athletau Dan Do'r Byd
Mae'r rhedwr Jeremiah Azu wedi ennill y ras 60 medr ym Mhencampwriaethau Athletau Dan Do'r Byd yn Tsieina.
Fe enillodd y rhedwr o Gaerdydd rownd derfynol y gystadleuaeth o drwch blewyn - gan wibio heibio'r llinell derfyn mewn amser o 6.49 eiliad
Wrth gofnodi ei amser cyflymaf yn y ras erioed, fe lwyddodd i ymestyn ar y llinell a gorffen canfed o eiliad yn unig o flaen Lachlan Kennedy o Awstralia.
Akani Simbine o Dde Affrica gorffennodd yn safle'r fedal efydd.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1903076163716632757
Dyma fuddugoliaeth fwyaf arwyddocaol yng ngyrfa'r rhedwr 23 oed hyd yma, sydd yn ei sefydlu fel un o'r rhedwyr cyflymaf yn y byd.
Daw'r fuddugoliaeth ôl iddo ennill Pencampwriaeth Ewrop yn gynharach yn y mis.
Roedd Azu yn rhan o dîm ras cyfnewid Prydain a enillodd y fedal efydd yn y ras 4 x 100m yng Ngemau Olympaidd Paris y llynedd.