
Ffilter AI sy’n gwneud pobl yn fwy ar TikTok yn ‘niweidiol i bawb’

Ffilter AI sy’n gwneud pobl yn fwy ar TikTok yn ‘niweidiol i bawb’
Mae yna bryderon am 'chubby filter' sy’n gwneud i berson edrych yn fwy drwy ddefnyddio AI (artifical intelligence) sydd wedi dod yn boblogaidd ar TikTok.
Drwy ddefnyddio meddalwedd Capcut, mae AI yn newid maint eich corff, gan wneud i berson edrych yn llawer yn fwy nag ydyn nhw mewn gwirionedd. Mae Capcut yn eiddo i’r un cwmni sy’n berchen ar TikTok.
Mae Mari Gwenllian, perchennog y busnes H I W T I, yn codi ymwybyddiaeth am bositifrwydd corff.
“Fi’n meddwl bod e’n effeithio pobl denau yn negyddol, pobl mewn cyrff mwy yn negyddol… [mae] pob peth amdano fe yn negyddol,” dywedodd Mari.
“Mae’r ffilter yma yn benodol, a’r un ‘skinny filter’- mae’r ddau o nhw yn glorify-o bod yn denau,” ychwanegodd.
Mae dysmorffia'r corff, neu Body Dysmorphic Disorder yn effeithio rhwng 1%-2% o boblogaeth y DU, neu tua 1 miliwn o bobl, yn ôl yr elsen ‘Body Dysmorphic Disorder Foundation’.

‘Annhebygol iawn’
“Jyst peidiwch iwso’r ffilters," meddai Mari Gwenllian.
“Ac os chi’n defnyddio fe [skinny filter] fel motivation i fynd i’r gym, i fod yn iachus - mae’r ddelwedd a’r syniad o’r siâp corff neith y ffilter roi i chi yn annhebygol iawn, iawn o fod be’ fydd eich corff yn edrych fel os byddech chi yn colli pwysau…
“Ewch i ‘neud ymarfer corff a bwyta’n iachus achos bo’ chi moyn bod yn iachus ac yn hapus.”
Mae ITV Cymru wedi gofyn i TikTok am ymateb.