Newyddion S4C

Great British Energy: £3m i brosiectau cymunedol gwyrdd Cymru

21/03/2025
Cynllun ynni adnewyddadwy y gogledd

Bydd cyllid newydd gwerth bron i £3 miliwn yn cael ei ddefnyddio i adeiladu prosiectau ‘gwyrdd’ newydd yng Nghymru. 

Y nod yw buddsoddi’r arian i mewn i brosiectau cymunedol lleol.  

Yn Lloegr, fe fydd £80 miliwn yn mynd tuag at osod paneli solar ar 200 o ysgolion y wlad. Bydd £100 miliwn hefyd yn mynd tuag at brosiectau pŵer adnewyddadwy 200 o ysbytai a safleoedd y GIG. 

Bydd £4.85 miliwn o gyllid yn cael ei rhoi i’r Alban a £1.62 yng Ngogledd Iwerddon

Daw'r buddsoddiad fel rhan o gyllid gan gwmni cyhoeddus Great British Energy, a hynny fel rhan o gynllun gan Lywodraeth y DU i gynhyrchu mwy o bŵer adnewyddadwy. 

Fe fydd £2.88 miliwn yn mynd tuag at gyflwyno prosiectau adnewyddadwy newydd yng nghymunedau’r wlad – gan gynnwys prosiectau ynni gwynt a solar. 

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan y byddai’r cyllid ychwanegol yn gymorth wrth gyflwyno prosiectau gwyrdd yn gyflymach ar hyd a lled y wlad. 

Fe fydd buddsoddiad Llywodraeth y DU a Great British Energy hefyd yn creu mwy o swyddi ac yn helpu pobl i dalu eu biliau, medd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Jo Stevens. 

Fe ddaw’r cyllid fel rhan o fuddsoddiad £200 miliwn gan gwmni Great British Energy a Llywodraeth y DU. 

Dywedodd Cadeirydd Great British Energy Juergen Maier y byddai’r cwmni’n “parhau i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn buddio’n uniongyrchol” o dargedau gwyrdd Llywodraeth y DU. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.