Caerdydd yn isel ar y rhestr o ddinasoedd gorau am gerddoriaeth fyw
Dyw Caerdydd ddim ymhlith yr 20 dinas orau yng ngwledydd Prydain am gerddoriaeth fyw mewn tafarndai a bariau, yn ôl arolwg newydd.
Daw'r newyddion wedi i nifer o ganolfannau cerddoriaeth mwyaf adnabyddus y ddinas gau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Caeodd canolfan The Moon ym mis Tachwedd, gyda nifer o safleoedd eraill fel Gwdihŵ, Buffalo a 10 Feet Tall hefyd wedi diflannu cyn hynny.
Yn ôl arolwg gan y cwmni hawlfraint PRS For Music, mae Caerdydd yn rhif 23 yn y rhestr o ddinasoedd mwyaf bywiog am gerddoriaeth y tu allan i Lundain.
Gwnaeth yr arolwg astudiaeth o faint o ganolfannau oedd a thrwydded cerddoriaeth fyw ymhob dinas.
Dangosodd yr astudiaeth fod gan brifddinas Cymru lawer llai o ganolfannau i gerddoriaeth na dinasoedd fel Caerwysg (Exeter), Portsmouth a Sheffield.
Belfast sydd ar frig y rhestr, gyda 387 o ganolfannau cerddoriaeth, gyda Birmingham, Nottingham, a Bryste'n dilyn.