Y Tour de France yn dod i Gymru am y tro cyntaf yn 2027
Fe fydd y Tour de France yn dod i Gymru am y tro cyntaf erioed yn 2027.
Yn ogystal a theithio drwy Gymru, fe fydd cymal o'r Tour yn teithio drwy’r Alban a Lloegr hefyd y flwyddyn honno, gan ddechrau yng Nghaeredin.
Fe fydd union lwybr y cymal Cymreig o'r ras fyd-enwog yn gael ei gyhoeddi yn yr Hydref.
Fe fydd cymal cyntaf y Tour yn agor ym Mhrydain yn 2027, a hynny am y trydydd tro.
Mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â llywodraethau'r Alban a'r D.U, wedi cyfrannu'n ariannol at y digwyddiad.
Wrth ymateb, dywedodd y llywodraeth mewn datganiad:"Rydym mor falch o gynnal cymal y Grand Depart 2027.
"Gyda'n tirweddau trawiadol, a'n pobl gyfeillgar, Cymru fydd yn darparu'r her eithaf a chroeso unigryw i gystadleuwyr a chefnogwyr y gamp."
Wrth ddathlu'r cyhoeddiad mewn digwyddiad yng Nghaerdydd, dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan y gallai'r ras fod yn hwb economaidd enfawr i Gymru.
"Mi alle fe neud gwahaniaeth anhygoel," meddai. "Hyd yn oed heddiw, ry'n i'n cael tua £100 miliwn o dwristiaeth yn ymwneud a seiclo.
"Gallai hwn fynd a ni yn stratasfferig yn y maes yma."
2014 oedd y tro diwethaf i hyn ddigwydd, pan ddechreuodd yn Leeds, gyda chymalau hefyd yn gorffen yn Sheffield a Llundain mewn blynyddoedd diweddarach.
Roedd y cymal agoriadol, y Grand Depart, wedi ei gynnal y llynedd yn Fflorens, yn yr Eidal.
Yn 2018, Geraint Thomas oedd y Cymro cyntaf i ennill y Tour de France.
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Geraint Thomas ei fod wedi ystyried ceisio parhau i seiclo am ddwy flynedd arall er mwyn cael cymryd rhan, cyn derbyn nad oedd gobaith o hynny mewn gwirionedd.
"Fe fydd e'n beth enfawr i Gymru," meddai.
Mae dau feiciwr Prydeinig arall wedi ennill y ras dros y blynyddoedd hefyd, sef Bradley Wiggins a Chris Froome.
Daeth buddugoliaeth Thomas 50 mlynedd ar ôl ymddangosiad y Cymro cyntaf i rasio yn y ras enwog, sef Colin Lewis.
Yn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gyllid i gynnal y Grand Depart yn 2026, gyda’r nod o gynnal cymalau ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban, ond cafodd y cais hwnnw ei ollwng.